Mae llu o deyrngedau wedi eu rhoi i’r actores y Fonesig Barbara Windsor fu farw neithiwr (Rhagfyr 10) yn 83 oed.
Roedd yr actores wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer’s yn 2014 ac wedi cyhoeddi’r newydd yn 2018. Bu farw mewn cartref gofal yn Llundain nos Iau (Rhagfyr 10), meddai ei gŵr Scott Mitchell.
Daeth yr actores i amlygrwydd yn y ffilmiau Carry On yn y 1960au ac yn ddiweddarach yn chwarae rôl Peggy Mitchell yng nghyfres sebon y BBC, EastEnders.
“Trysor cenedlaethol”
Ymhlith y teyrngedau sydd wedi cael ei rhoi iddi, mae hi wedi ei disgrifio fel “trysor cenedlaethol” a “Brenhines answyddogol Lloegr”.
Dywedodd y digrifwr Matt Lucas bod “pawb yn adnabod Barbara Windsor ac roedd pawb yn ei charu…. Fe fydda’i yn gweld eisiau ei chynhesrwydd, ei haelioni, ei charedigrwydd a’i chlywed yn chwerthin. Roedd hi’n ddynes anhygoel a dw i ddim yn credu mod i’n gor-ddweud bod y wlad i gyd yn galaru amdani heddiw.”