Mae cwmni theatr Bara Caws yn cynnal eu sioe glwb rhithiol ‘Dawel Nos’ y penwythnos hwn sef ‘sbwff’ o stori glasurol y Christmas Carol.

Y criw sy’n gyfrifol am greu’r sioe, yw Mari Emlyn, sy’n gweithio fel rheolwr teithiau a phrosiectau Bara Caws, ac yr actorion Iwan Charles a Llŷr Evans.

Mae’r tri wedi sefydlu cwmni eu hunain – Cwmni303 – ar ôl galwad gyhoeddus gan Bara Caws am geisiadau i greu’r sioe llynedd.

Y gobaith, yw cefnogi actorion llawrydd a thechnegwyr yng Ngwynedd a chreu dihangfa i’r gynulleidfa oddi wrth “wallgofrwydd covid” – i fwynhau awr a hanner o adloniant a chwerthin!

Angen “adloniant a chwerthin”

Er mai’r bwriad gwreiddiol oedd i fynd â’r sioe ar daith, doedd y pandemig ddim am atal y criw rhag fynd ati i addasu:

“Oedden ni’n teimlo bod pobol fwy o isio adloniant a chwerthin nag erioed, meddai Mari Emlyn.

“Felly dyma ni’n rhoi ein pennau at ein gilydd… trafod syniadau a gweld os oes yna fodd i ni wneud rhywbeth yn rhithiol.

“Mae’r sioeau clwb mor boblogaidd,” meddai, “mae ’na filoedd… tua 4,500 ar gyfartaledd yn dod i weld bob sioe clwb o ran cynulleidfa.

Er hynny, eglurodd Mair Emlyn gall cynnal y sioe yn rhithiol fod yn gyfle i gyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol.

“Light relief oddi wrth wallgofrwydd covid”

Er nad oedd modd osgoi’r pandemig wrth ffilmio a chynhyrchu’r sioe, y gobaith yw creu ddihangfa ar gyfer y gynulleidfa.

“Fedri di ddim denig oddi wrtho fo,” meddai Mari Emlyn, “ond dyna ma’ bobol isio ei wneud.

“Dwi’n ysu am gael awr a hanner o beidio meddwl na siarad am covid – dwi’n meddwl bod ’na lot o bobl ru’n fath.

“Er mai hanfod sioe glwb yw ymateb i’r byd sydd o dy gwmpas di, mi yda ni wedi… i ryw raddau ond hefyd wedi creu rhyw light relief oddi wrth wallgofrwydd covid!”

Eglurodd bod gwaith golygu “anhygoel” Dafydd Hughes o gwmni Amcan wedi gallu rhoi’r argraff bod yr actorion gyda’i gilydd mewn rhai golygfeydd.

“Mae o ‘di bod yn learning curve ofnadwy,” meddai, “ond yn lot o hwyl hefyd!”

“Ymdeimlad bod o’n event”

“Er mai yn rhithiol mae o – ac yn amlwg dydi o ddim yn fyw, mae o wedi cael ei ffilmio a’i olygu, odda ni isio rhoi’r ymdeimlad ‘na bod o’n event.

“Ond, oherwydd natur sioe glwb mae gen ti lot o bobl yn chwerthin ar adegau gwahanol, odda chdi isio’r flexibility na i bobl allu rhoi pause.”

“A hefyd mae plant pobl yn mynd i’w gwlâu ar adegau gwahanol… a dydyn nhw yn sicr ddim i glywed yr un gair o’r sioe…!”

Er nad yw’n sioe glwb traddodiadol, dywedodd Mari ei fod yn gyfle i…

“Ymlacio, anghofio’r coronafeirws am awr a hanner, cael drink bach, gwisgwch i fyny, gwneud o’n event… a joio!”

“Mae hon yn dra-gwahanol”

“Dwi wedi gwneud nifer o sioe glybiau ac mae hon dra-gwahanol o ran y ffordd ‘da ni ‘di mynd o’i chwmpas hi,” meddai’r actor Iwan Charles.

“O ran yr actio, mi oedd o dipyn bach yn od oherwydd y ffordd oedd rhaid i ni ffilmio fo – doedd yr actorion ddim yn cael bod ar yr un llwyfan neu’r ru’n shot o gwbl.

“Hefyd, does ‘na ddim ymateb gan y gynulleidfa ond ‘da ni wedi bod yn dangos clips i wahanol bobl, yn ffrindiau a theulu a ‘da ni wedi cael ymateb da hyd yn hyn!

Iwan Charles

Wrth drafod ei berthynas gyda’i gyd-actor Llŷr Evans, dywedodd:

“Da ni wedi gweithio hefo’n gilydd sawl gwaith mewn sioeau clybiau Bara Caws… Raslas bach a mawr… ac mae ‘na rhywbeth amdana ni… ‘da ni’n gweithio mor dda hefo’n gilydd!”

“Maen nhw’n bownsian oddi ar ei gilydd trwy’r adeg,” meddai Mari Emlyn, “rhywbeth wedi clicio a ‘di gweithio rhwng y ddau.”

Llyr Evans

“Gwaith i actorion llawrydd a thechnegwyr”

Mae sawl mantais i gynnal y sioe yn rithiol ac un o’r rhain yw’r gallu i gynnwys mwy o actorion, fel mae Iwan Charles yn egluro:

“Fel arfer mewn sioe glwb, mae gen ti bedwar neu pum actor sy’n dyblu fyny ac sy’n chwarae’r holl gymeriadau. Be oedd yn grêt am hon gan fod ni’n ffilmio hi’n rhithiol, bod ni’n gallu castio bob cymeriad ar wahân.

“Wedyn ‘da ni ‘di castio llwyth o bobl leol o’ gwmpas Caernarfon, Bangor, Bethesda ac mae hynny wedi bod yn reallyneis – rhoi gwaith i actorion llawrydd a thechnegwyr hefyd sydd wedi colli lot o incwm oherwydd covid.”

Lisa Jen

“Braint fawr i mi”

Mae sawl actor o Ddyffryn Ogwen yn chwarae rhannau yn y sioe, gan gynnwys Linda Brown, Lisa Jen, Gwenno Elis Hodgkin a Rheinallt Wyn Davies.

“Mae hyn yn fraint fawr i mi,” meddai Rheinallt Wyn Davies.

“Yn tyfu i fyny… dylwn i ddim dweud hyn… ond mi oeddwn i’n denig o dan oed i mewn i weld sioe glybiau felly dwi ’di bod yn ffan o’r sioe glybiau ers talwm…. nes i ddim meddwl dim am y peth dim ond deud ia!

“Roedd hi’n broses hwyliog, difyr a lot o hwyl ond mi oedd o’n wahanol ofnadwy i be ‘dwi ‘di arfer hefo.

“Fedri di neud rhywbeth… a ti’n meddwl bod o’r peth mwyaf funny neu emosiynol ti erioed wedi ei wneud yn dy fywyd… ond go iawn, does ‘na neb yn gweld o tan hwyrach ymlaen yn eistedd adref.

“Go iawn… does gan neb syniad beth fydd yr ymateb!”

Rheinallt Wyn Davies

“Mae’r flwyddyn ‘di bod yn nightmare i bawb… mae o’n neis cael perfformio, cael trio rhywbeth newydd ac mae isio chwerthin a chael sbort ar ôl y flwyddyn ‘da ni ‘di gael.”

Mae modd archebu tocyn i’r sioe Dawel Nos (Rhagfyr 11 a 12 a Rhagfyr 18 a 19) oddi ar wefan Galeri Caernarfon.