Mae dyn 23 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio ei ddyweddi yn eu cartref yng Nghaerdydd, cyn archebu tecawê a chyffuriau i’r fflat yng Nghaerdydd.

Roedd Madog Rowlands, o Wrecsam wedi tagu ei ddyweddi Lauren Griffiths, 21 oed, cyn gorchuddio ei chorff mewn bagiau plastig.

Cafodd ei arestio am ymosodiad tebyg ar Lauren Griffiths flwyddyn ynghynt.

Clywodd y llys bod y cwpl i fod i briodi fis ar ôl i Madog Rowlands ei lladd, a’u bod yn bwriadu cael seremoni baganaidd.

Fe arhosodd 24 awr cyn ffonio 999 a chymryd arno fod y digwyddiad yn Stryd Glynrhondda yn Cathays newydd ddigwydd, a’i fod wedi ei lladd “drwy gamgymeriad”.

Rhwng adeg y llofruddiaeth a deialu 999, tynnodd Madog Rowlands arian allan o’u cyfrifon banc, prynu a defnyddio canabis ac MDMA, archebu tecawê, a cheisio sefydlu cyfrif Netflix.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd y myfyriwr nad oedd wedi bwriadu lladd Lauren Griffiths a’i fod wedi bod yn ceisio amddiffyn ei hun ar ôl iddi hi afael yn ei wddf yn dilyn cyfnod o broblemau iechyd meddwl.

Ond yn Llys y Goron Casnewydd heddiw (Dydd Iau, Rhagfyr 10) cafwyd Madog Rowlands yn euog o lofruddio ei ddyweddi ar Ebrill 29, 2019.

Mae’r barnwr Daniel Williams wedi galw am adroddiad seiciatryddol cyn iddo ddedfrydu Madog Rowlands.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Ionawr 8.

Merch hyfryd â dyfodol disglair

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales, o dîm ymchwilio troseddau mawr Heddlu De Cymru: “Roedd Lauren yn ferch a chwaer annwyl iawn a oedd â dyfodol disglair ac addawol.

“Mae ei theulu wedi dangos amynedd ac urddas aruthrol yn ystod y cyfnod hir a thorcalonnus hwn. Gobeithiwn y gallant yn awr ddechrau adfer ac ailadeiladu eu bywydau.

“Ar ôl llofruddio Lauren yn ystod oriau mân ddydd Llun Ebrill 29, arhosodd Madog Rowlands fwy na 24 awr cyn ffonio 999, gan ddangos diystyriad llwyr i unrhyw siawns y gallai fod ganddi o oroesi.

“Yn y cyfnod hwn, cymerodd Rowlands arian o gyfrif Lauren, aeth i siopa, prynu a chymryd llawer iawn o gyffuriau, archebu pizza, a sefydlu cyfrif Netflix, cyn y pen draw – efallai ar ôl sylweddoli pa mor anochel yw’r sefyllfa – ffonio 999.

“Ni ddangosodd unrhyw bryder ystyrlon am les nac urddas Lauren ar unrhyw adeg.

“Hoffem ddiolch i’r holl dystion a gynorthwyodd yr ymchwiliad, cymuned Cathays, yn ogystal â’r tîm erlyn.”