Mae ymgynghoriad i gofeb Syr Picton Thomas yng Nghaerfyrddin wedi canfod bod mwyafrif o blaid ei chadw.

Yn sgil protestiadau gwrth-hiliaeth yr haf, lansiwyd yr ymgynghoriad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i’r obelisg dadleuol sy’n coffáu’r ffigwr dadleuol.

Ac yn siarad ag un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw mae’r Cynghorydd, Cefin Campbell, wedi datgelu prif ganlyniadau eu holiadur ynghylch y gofeb.

Derbyniwyd 2,470 o ymatebion ac roedd dau o blaid cadw’r gofeb fwy neu lai fel y mae hi, i bob un yn erbyn.

Hynny yw, mwyafrif cyffyrddus yn erbyn ei thynnu i lawr.

Yn ôl y cynghorydd roedd hynny’n “gyson” ar draws y tri grŵp oedran (16-24, 25-54, 55+).

Ymhlith ymatebion pobol BAME roedd mwy o gefnogaeth fyth gyda phedwar o blaid cadw’r gofeb fwy neu lai fel y mae hi, i bob un yn erbyn.

Roedd 9% o’r ymatebwyr o’r gymuned BAME, sy’n oddeutu 222 o ymatebwyr.

Fodd bynnag, mae pobol “ar y ddwy ochr”, yn ôl y cynghorydd, yn credu bod angen “rhoi rhywbeth o gwmpas y gofeb neu ar y gofeb sy’n cyflwyno Syr Thomas Picton yn gyflawn.”

Bydd adroddiad y Cyngor Sir a’i holl argymhellion yn cael ei gyhoeddi fory.

Llythyron “annifyr” o’r asgell-dde

Bu’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn holi Cefin Campbell am sut y taniwyd yr ymdrech i adlewyrchu ar hiliaeth yn y sir.

A dywedodd yntau bod y cyfan wedi’i ysgogi gan awydd cynghorwyr, ochr yn ochr â gohebiaeth oddi wrth y cyhoedd.

Dywedodd ei fod yntau, a phrif swyddogion y Cyngor, wedi derbyn llythyron yn benodol am gofeb Picton. Mi dynnodd sylw hefyd at lythyron digon amhleserus y derbyniwyd.

“Mi dderbyniom nifer o lythyron ac e-byst oddi wrth bobol y tu allan i Sir Gaerfyrddin a oedd yn rhan o ymgyrch ehangach – Save Our Monuments,” meddai.

“Ac mi dderbyniais lawer o lythyron hynod sarhaus gan grwpiau asgell dde a oedd yn gwbl agored am eu hiliaeth a’u teimladau o ragfarn.

“Roedd darllen rhai o’r sylwadau rheiny yn brofiad eitha’ annifyr.”

Ffigurau

Derbyniwyd 2,470 o ymatebion sy’n “llawer llawer uwch” na’r nifer mae’r Cyngor yn ei dderbyn i ymgynghoriadau fel arfer, meddai Cefin Campbell

Roedd opsiwn o roi sylw pellach yn yr holiadur, ac mi wnaeth 2,357 ysgrifennu ymatebion ychwanegol.

Ymhlith y bobol a ymatebodd mi roedd:

  • 73% o Sir Gaerfyrddin
  • 30% o dref Caerfyrddin
  • 9% o’r gymuned BAME

Gwaith y Cyngor

Yn sgil protestiadau gwrth-hiliaeth yr haf cyflwynwyd dau rybudd cynnig gerbron y cyngor sir eleni.

Sefydlwyd grŵp tasg a gorffen trawsbleidiol i edrych ar hiliaeth a thriniaeth y gymuned BAME (pobol ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) ac ymgynghori ar y gofeb oedd un o’u tasgau.

Dechreuodd y gwaith yma ar Awst 2 a lluniwyd yr holiadur o fewn pythefnos.