Mae undeb athrawon arall wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gau ysgolion yn gynnar cyn y Nadolig.
Mae Undeb NAHT Cymru, sy’n cynrychioli prifathrawon, wedi anfon llythyr at y Gweinidog Addysg yn galw am gau ysgolion Cymru o ddydd Gwener, Rhagfyr 11.
Daw hyn wedi i Undeb Athrawon Cenedlaethol Cymru (UCAC) rybuddio fis diwethaf y gallai achosion o’r coronafeirws mewn ysgolion olygu y byddai yn rhaid i ddisgyblion a staff hunanynysu dros y Nadolig.
Er bod y mwyafrif o Awdurdodau Lleol yn bwriadu cadw ysgolion ar agor tan ddiwedd y tymor mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi heddiw (Rhagfyr 10) eu bod yn bwriadu dilyn cynghorau Caerffili a Rhondda Cynon Taf, gan gau ysgolion yn gynnar ar 16 Rhagfyr.
Grŵp ymgynghorol yn galw am ddysgu ar-lein
Mae adroddiad gan Grŵp Ymgynghori Llywodraeth Cymru (TAG) yn awgrymu byddai cau ysgolion yn lleihau’r lefel o gymysgu cymdeithasol cyn 23-28 Rhagfyr.
Yn dilyn hyn ysgrifennodd Laura Doel, cyfarwyddwr Undeb NAHT Cymru, at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn galw am gyfarfod brys i drafod y mater.
Mae’r undeb yn awgrymu y dylid addysgu plant ar-lein, neu’n rhannol ar-lein, yn ystod yr wythnos olaf.
“Dw i’n obeithiol y byddai’r gweinidog sydd hyd yma wedi gweithredu yn ôl canllawiau iechyd a diogelwch, yn gweithredu ar y canllawiau heddiw,” meddai Laura Doel wrth Radio Wlaes.
“Rwy’n credu y bydd nifer o rieni yn penderfynu drostynt eu hunain, beth bynnag.”
Yn ystod cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Rhagfyr 7) dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y gallai “niwed gwirioneddol” gael ei achosi drwy dynnu plant allan o’r ysgol.
Fodd bynnag, er bod presenoldeb yn yr ysgol yn orfodol gan Lywodraeth Cymru maent yn cydnabod na fyddai’n briodol cyflwyno hysbysiadau os yw’r plentyn yn absennol oherwydd pryder yn sgil y Coronafeirws.
Cadw ysgolion ar agor yn rhannol
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am gau ysgolion yn gynnar – ond wedi awgrymu dylid gwneud hynny’n rhannol.
“Mae’r cyngor diweddaraf gan y Cell Cyngor Technegol [TAG] i Lywodraeth Cymru wedi amlygu’r peryglon ynghlwm â chadw ysgolion ar agor, ac mae’n rhaid i’r cyngor yma cael ei ystyried o ddifri,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Siân Gwenllian.
“Dylai Llywodraeth Cymru roi caniatâd i ysgolion gau wythnos nesaf ac annog pawb sy’n gallu i gadw eu plant adref – ond rhaid bod cnewyllyn o staff ar gael ym mhob ysgol i edrych ar ôl y rhai sydd dal angen mynd i’r ysgol.”
Pan gaewyd ysgolion yn ystod y clo cenedlaethol cyntaf roedd plant gweithwyr allweddol yn dal i allu mynychu.