Bydd holl ddisgyblion ysgolion Blaenau Gwent yn cael eu dysgu ar-lein o ddydd Iau (Rhagfyr 10).
Daw penderfyniad y Cyngor Sir mewn cydweithrediad â holl benaethiaid y sir, gyda chyfraddau coronafeirws y sir ymhlith yr uchaf yng Nghymru.
Bydd safleoedd yr ysgolion yn cau ar ddiwedd y diwrnod ysgol ddydd Mercher (Rhagfyr 9), a bydd athrawon yn defnyddio ystod o adnoddau ar-lein, gan gynnwys Hwb Llywodraeth Cymru, meddai’r Cyngor Sir mewn datganiad.
Maen nhw’n dweud bod cau ysgolion yn lleihau’r risg y bydd rhaid i ddisgyblion hunanynysu am bythefnos cyn y Nadolig yn unol â chanllawiau’r system brofi ac olrhain.
Mae disgyblion a staff 18 o ysgolion wedi bod yn hunanynysu, sy’n golygu dros 900 o ddisgyblion yn y sir.
Bydd y tymor yn dod i ben ar Ragfyr 18, a bydd trefniadau yn eu lle ar gyfer plant sy’n derbyn cinio ysgol rhad ac am ddim.
Ymateb y Cyngor
“Rydym wedi cysylltu a gwrando ar arweinwyr ein hysgolion am weddill y tymor hwn a does gennym ddim amheuaeth mai hwn yw’r penderfyniad hollol gywir ar gyfer dysgwyr a’u teuluoedd, gan roi’r cyfle gorau iddynt beidio bod yn yn wynebu’r Nadolig wedi hunanynysu,” meddai Joanne Collins, yr Aelod Gweithredol Addysg ar y Cyngor Sir.
“Mae ein holl ysgolion wedi gweithio mor galed eleni i ddatblygu cynlluniau cynhwysfawr dysgu o bell a dysgu cyfunol ar gyfer disgyblion, a chafodd y rhain eisoes eu rhoi ar waith lle bu’n ofynnol i ddisgyblion hunanynysu.
“Bydd staff addysgu yn parhau i gynnig cefnogaeth tan ddiwedd y tymor.
“Mae staff ysgolion wedi gweithio mor galed i gefnogi dysgwyr drwy gydol y flwyddyn anodd iawn, yn ystod y cyfnod clo llawn a hefyd pan ailagorodd ysgolion i ddarparu amgylcheddau dysgu diogel a chroesawus y tymor hwn.
“Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith caled a’u hymroddiad i blant a phobol ifanc y Fwrdeistref Sirol hon.”