Mae Rwsia wedi dechrau brechu pobol fregus dros 70 oed yn erbyn y coronafeirws.

Mae cyfleusterau arbennig wedi’u hagor ym Mosgo heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5), lle bydd pobol yn derbyn brechlyn Sputnik V.

Gall pobol sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg a chyfleusterau meddygol gael eu brechu hefyd, ynghyd â gweithwyr dinesig.

Bydd y brechlyn hefyd ar gael i bobol rhwng 18 a 60 oed nad ydyn nhw’n fregus, yn ogystal â menywod nad ydyn nhw’n feichiog nac yn bwydo ar y fron.

Mae treialon Sputnik V yn parhau, a’r disgwyl yw y bydd brechu eang yn dechrau’r wythnos nesaf ar orchymyn yr Arlywydd Vladimir Putin.

Cafodd Sputnik V ei gymeradwyo ym mis Awst, a Rwsia oedd y wlad gyntaf i gyhoeddi bod ganddyn nhw frechlyn addas.

Ond cafodd y treialon ar ddwsinau o bobol yn unig eu beirniadu, gydag arbenigwyr yn rhybuddio bod rhaid cynnwys degau o filoedd o bobol mewn treialon er mwyn sicrhau bod brechlyn yn ddiogel.

Mae dros 100,000 o bobol eisoes wedi derbyn y brechlyn yn Rwsia.