Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ac Ursula von der Leyen, llywydd Comisiwn Ewrop, yn cynnal trafodaethau brys yn y gobaith o daro bargen ynghylch cytundeb masnach ar ôl Brexit.
Gyda’r amser sydd ar gael i daro bargen yn prysur ddirwyn i ben, cyhoeddodd prif negodwyr Brexit ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 4) y byddai oedi yn y trafodaethau er mwyn i arweinwyr gwleidyddol gael pwyso a mesur y sefyllfa.
Yn ôl datganiad gan yr Arglwydd Frost ar ran Llywodraeth Prydain a Michel Barnier ar ran yr Undeb Ewropeaidd, dydyn nhw ddim wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer cytundeb eto.
Mae lle i gredu bod gwahaniaethau “sylweddol” o hyd yn safbwyntiau’r ddwy ochr, a’r rheiny yn ymwneud â physgodfeydd, cystadleuaeth deg a mecanweithiau gorfodaeth ar gyfer cytundeb arfaethedig.
Daw cyfnod pontio Brexit i ben ddiwedd y mis yma, ac mae’r trafodaethau diweddara’n cael eu hystyried yn hanfodol i unrhyw gytundeb posib.
Cyhuddiadau
Serch hynny, mae Llywodraeth Prydain yn cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o gyflwyno “elfennau newydd” i’r trafodaethau ar yr unfed awr ar ddeg, gan beryglu cytundeb posib.
Maen nhw’n ofni bod Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, yn pwyso ar Michel Barnier i beidio ag ildio rhagor o dir.
Yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Ffrainc, gallai’r wlad atal unrhyw gytundeb pe baen nhw’n anfodlon â’r amodau.
Ond mae Micheal Martin, Taoiseach Iwerddon, yn cwyno bod rhai gwledydd wedi bod yn pwyso’n annheg er mwyn cael “gwybodaeth ychwanegol” am y sefyllfa.
Mae’n galw am roi amser i negodwyr gau pen y mwdwl ar eu trafodaethau.
Trafodaethau
Mae disgwyl i Boris Johnson ac Ursula von der Leyen gynnal trafodaethau dros y ffôn heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5).
Bydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod ddydd Iau (Rhagfyr 10) mewn uwchgynhadledd ym Mrwsel, a’r posibilrwydd yw y gallen nhw roi sêl bendith i unrhyw fargen bryd hynny.
Ond mae angen rhoi amser i San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd roi eu sêl bendith nhw hefyd cyn i’r cyfnod pontio ddod i ben.
Os nad oes bargen erbyn Rhagfyr 31, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael y farchnad sengl a’r undeb dollau ac yn dechrau masnachu yn unol ag amodau Sefydliad Masnach y Byd, fydd yn cynnwys tariffau a chwotâu.
Bil y Farchnad Fewnol
Mae Bil y Farchnad Fewnol yn cymhlethu’r sefyllfa, wrth i’r ddeddfwriaeth honno alluogi Boris Johnson a’i lywodraeth i anwybyddu rhannau o’r Bil Ymadael yn groes i gyfreithiau rhyngwladol.
Ddydd Llun (Rhagfyr 7), bydd aelodau seneddol yn pleidleisio i benderfynu a ddylid gwyrdroi gwelliannau’r Arglwyddi sy’n ymwneud â diogelu ffiniau Iwerddon.
Bydd trethi’n cael eu trafod yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae’r ddeddfwriaeth wedi cythruddo’r Undeb Ewropeaidd.