Mae pennaeth lluoedd arfog Sbaen wedi wfftio cyfres o negeseuon WhatsApp honedig gan gyn-swyddogion sy’n annog saethu pobol sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.

Yn ôl Cadfridog yr Awyrlu, Miguel Villarroya Vilalta, dydy’r sylwadau gan gyn-swyddogion ddim yn cynrychioli barn y lluoedd arfog, ac mae’r sylwadau’n “niweidio delwedd lluoedd arfog Sbaen ac yn cymylu barn y cyhoedd”.

Cafodd y sgyrsiau WhatsApp eu cyhoeddi ar wefan newyddion Infolibre.

Yn ôl y wefan, dywedodd un o’r swyddogion “nad oes dewis arall ond dechrau saethu 26 miliwn”, ac fe ddywedodd cyn-swyddog arall nad oes modd i neb “ddisodli” y Cadfridog Francisco Franco, oedd wedi arwain gwrthryfel a arweiniodd at ryfel cartref rhwng 1936 a 1939 cyn dod yn unben ar y wlad.

Mae lle i gredu mai cyn-swyddogion oedd wedi dechrau eu hyfforddiant o dan Franco yn 1963 oedd yn cynnal y sgyrsiau, a’u bod nhw ymhlith y rhai sydd wedi beirnadu llywodraeth Sbaen yn ddiweddar.

Roedd y llythyr yn cynnwys iaith sy’n gyffredin ymhlith cefnogwyr asgell dde y prif weinidog Pedro Sanchez.

Mae un o weinidog Llywodraeth Sbaen wedi gofyn i’r awdurdodau gynnal ymchwiliad.