Mae Joe Anderson, Maer Lerpwl, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio i dwyll a bygwth tystion.

Mae’r achos yn ymwneud â chytundebau adeiladu.

Cafodd y dyn 62 oed ei arestio ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 5) a’i holi yn y ddalfa.

Dywed Heddlu Glannau Mersi fod pump o bobol wedi cael eu harestio wrth i’w hymchwiliad barhau.