Mae dyn 29 oed o Gorwen wedi’i gael yn ddieuog o yrru ar gyflymdra uchel wrth geisio torri record ar daith o John O’Groats yn yr Alban i Land’s End yng Nghernyw – y daith bellaf drwy wledydd Prydain.

Cafwyd Thomas Davies yn ddieuog o ddau gyhuddiad o yrru’n beryglus a dau gyhuddiad pellach o wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn perthynas â’r daith ym mis Medi 2017.

Cafodd ei gyhuddo o gwblhau’r daith o 837 o filltiroedd mewn naw awr a hanner – y cyflymdra mwyaf erioed – mewn Audi A5 S5.

Roedd erlynwyr yn dadlau ei fod e wedi defnyddio teclyn i osgoi cael ei ddal gan gamerâu cyflymdra, a bod ganddo fe blatiau adnabod ffug ar y cerbyd.

Clywodd Llys y Goron Truro yng Nghernyw ei fod e wedi aros chwe mis cyn brolio am y digwyddiad mewn blog, a bod yr hanes wedi ymddangos mewn sawl papur newydd Prydeinig ac ar raglen Jeremy Vine ar Radio 2.

Dywedodd wrth y llys, wrth gynrychioli ei hun, nad ei gar e oedd yn cael ei yrru, nad fe oedd yn gyrru’r car a bod y daith wedi cael ei chwblhau mewn 12 awr.

Dywedodd ymhellach fod yr achos yn ei erbyn yn gyfres o gyd-ddigwyddiadau ac y byddai’n debygol o fod wedi cael ei ddal gan o leiaf un camera pe bai wedi bod yn gyrru’n rhy gyflym.

Ac fe eglurodd ei ddarn blog drwy ddweud bod y cyfan wedi cael ei orliwio.

Cafwyd e’n ddieuog o’r pedwar cyhuddiad yn dilyn pedair awr o bwyso a mesur gan y rheithgor.