Mae disgwyl i’r brechlyn coronafeirws gael ychydig iawn o effaith ar nifer y cleifion mewn ysbytai, yn ôl pedwar prif swyddog meddygol gwledydd Prydain.

Mewn llythyr at eu cydweithwyr, mae Dr Frank Atherton o Gymru, yr Athro Chris Whitty o Loegr, Dr Gregor Smith o’r Alban a Dr Michael McBride o Ogledd Iwerddon yn pwysleisio y bydd dathliadau’r Nadolig yn rhoi pwysau ychwanegau ar wasanaethau gofal iechyd.

“Mae’r gaeaf bob amser yn heriol i’r Gwasanaeth Iechyd ac i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach,” medd y llythyr.

“Bydd eleni’n arbennig o anodd yn sgil Covid-19.

“Er bod y newyddion am y brechlyn sydd i’w groesawu’n fawr yn golygu y gallwn edrych ymlaen at 2021 gyda mwy o optimistiaeth, dim ond effaith fach fydd defnyddio brechlynnau’n ei chael wrth leihau’r niferoedd sy’n dod i mewn i’r Gwasanaeth Iechyd â Covid dros y tri mis nesaf.”

Mae’r llythyr yn dweud wedyn bod ymddygiad y bobol sy’n cadw at y rheolau’n debygol o arwain at ostyngiad yn nifer y bobol sy’n mynd i’r ysbyty dros y mis nesaf, ond nid ym mhob ardal.

Ac mae’n rhybuddio ymhellach y gallai dathliadau’r Nadolig “roi pwysau ychwanegol ar ysbytai ac ymarfer cyffredinol dros y Flwyddyn Newydd” a bod yn “rhaid bod yn barod ar gyfer hynny”.

Mae’n dweud ymhellach fod rhaid dysgu mwy am y feirws yn ystod y tri mis nesaf er mwyn datblygu triniaethau.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl i Covid ddiflannu hyd yn oed pan fo brechlyn llawn, er y bydd yn llai pwysig o lawer fel achos marwolaeth,” meddai wedyn.

“Mae’n gwbl hanfodol, felly, ein bod ni’n defnyddio’r tri mis nesaf i ddysgu cymaint ag y gallwn ni gan ein bod ni’n disgwyl i Covid fod yn llai cyffredin yn y dyfodol.

“Bydd hyn yn ein galluogi ni i gael y siawns orau o seiliau tystiolaeth cadarn i’w reoli dros y blynyddoedd i ddod.”