Mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, wedi diolch i wirfoddolwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, gan gyhoeddi cronfa grant newydd gwerth £4m ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus.

Mae ystod eang o waith gwirfoddol a gweithredu cymunedol wedi bod yn allweddol i ymateb Cymru i bandemig y coronafeirws, yn enwedig i gefnogi’r bobol fwyaf bregus yn y gymuned.

Mae cynllun cyllid grant tymor byr newydd gwerth £4m bellach wedi’i lansio.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yn helpu i sicrhau bod y gwaith hanfodol hwn yn parhau gan gefnogi’r ardaloedd daearyddol a’r cymunedau mwyaf difreintiedig.

Maen nhw hefyd am i’r arian gael ei ddefnyddio i hyrwyddo partneriaeth rhwng cyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector i gael yr effaith fwyaf posibl.

Bydd yr arian hwn yn cynnal gwirfoddoli a gweithredu cymunedol wrth i Gymru adfer ar ôl pandemig y coronafeirws, gan helpu’r rhai sy’n cael grantiau i gyflwyno systemau a threfniadau newydd a datblygu gwasanaethau cymorth cymunedol tymor hir.

“Hoffwn ddiolch i’r holl bobol anhygoel sydd, ac sydd wedi bod yn gweithio yn ein cymunedau ledled Cymru,”  meddai Jane Hutt.

“Rydych eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws cymunedau Cymru.

“Mae grwpiau cymunedol wedi dangos pa mor dda y mae gwirfoddolwyr yn cydweithio, a hoffwn gymeradwyo a dathlu’r ymdrechion hynny.

“Mae ymdrechu gyda’n gilydd yn creu canlyniadau bythgofiadwy, a gall gwirfoddoli gael effaith enfawr ac effaith fuddiol ar y gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n cael eu cymorth.”

“Cymorth hanfodol”

“Ers dechrau 2020, mae dros 22,000 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli ar wefan Gwirfoddoli Cymru,” meddai Ruth Marks, prif swyddog gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

“Mae’r gwirfoddolwyr hyn wedi rhoi cymorth hanfodol i doreth o unigolion, sydd wedi helpu i leddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae CGGC wedi gweld enghreifftiau gwirioneddol anhygoel o wirfoddoli a’r effaith y mae’r cymorth hwn wedi’i gael, ac felly hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un sydd wedi gwirfoddoli yn ystod y flwyddyn heriol hon.

“Mae’r sector gwirfoddol hefyd wedi cael trafferthion ariannol enfawr yn ystod y pandemig, ac felly mae cyllid fel y Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws yn hanfodol er mwyn sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yn gallu parhau i weithredu.

“Bydd CGGC yn parhau i gydweithio mewn partneriaeth agos â chyrff yn y sector cyhoeddus a’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol er mwyn sicrhau bod y sector yn cael y cyllid a’r cymorth y mae dirfawr angen amdano.”