Bydd profion torfol ar gyfer y coronafeirws yn dechrau yng Nghwm Cynon o heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5).

Dyma’r ail ardal yng Nghymru i gynnal profion torfol, gyda phrofion ar y gweill ym Merthyr Tudful tan Ragfyr 11

Bydd pobol yn gymwys os ydyn nhw’n byw yng Nghwm Cynon isaf, sy’n cwmpasu Aberaman, Abercynon, Aberpennar a Phenrhiwceiber.

Bydd canolfannau profi ar agor tan Ragfyr 20, a bydd modd derbyn canlyniadau o fewn hanner awr.

Canolfan fowlio dan do Cwm Cynon yn Aberpennar a Chanolfan Chwaraeon Abercynon fydd y ddwy brif ganolfan.

Os yw pobol yn cael profion positif, bydd gofyn iddyn nhw fynd adref i hunanynysu ar unwaith.