Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi gofyn i Gymry beidio teithio i dafarndai a bwytai yn Lloegr, er ei fod yn cydnabod fod ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny.

Mae pob sir yn Lloegr sy’n ffinio â Chymru yn ‘Haen 2’, sy’n golygu bod y tafarnau yno yn cael gweini cwrw gyda ‘pryd o fwyd sylweddol’.

Fe allai pobol o Gymru deithio i Gaer neu Fryste i gael noson allan, ond mae’r Prif Weinidog am iddyn nhw beidio.

“Nid yw’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bobol yng Nghymru beidio â theithio i ardal Lefel 2, neu Haen 2, y tu allan i Gymru,” meddai Mark Drakeford.

“Cyngor Llywodraeth Cymru, y cyngor clir i bobol, yw peidio teithio dros y ffin oherwydd mae’n ychwanegu at y risgiau yr ydym eisoes yn eu hwynebu, ac mae’r risgiau hynny eisoes yn gyrru cyfraddau coronafeirws i fyny’n gyflym yng Nghymru.

“Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â gwneud hynny. Nid yw’n dda i chi, nid yw’n dda i neb yr ydych yn adnabod, ac nid yw’n dda i weddill poblogaeth Cymru.”

Plaid Cymru yn poeni am Gymry yn croesi’r ffin i Gaer am noson allan

Mae Plaid Cymru hefyd yn poeni y gallai pobol fynd dros y ffin am noson allan, a chludo’r corona gyda nhw.

Ond maen nhw o blaid caniatáu i dafarndai weini alcohol yma.

“Mae polisi didostur ’dim alcohol’ Mark Drakeford wedi taro tafarndai gwerthiant gwlyb a thafarndai bwyd fel ei gilydd, a bydd y rhan fwyaf ar gau nawr tan y Flwyddyn Newydd,” meddai Siân Gwenllïan, AoS Arfon.

“Nid yw hynny’n gwneud dim synnwyr pan fo’r un llywodraeth yn caniatáu i bobl groesi’r ffin i Gaer ac yn bellach, sy’n cynyddu’r siawns o drosglwyddo’r feirws.

“Byddai cadw pethau’n ddiogel mewn tafarn drefnus yng Nghymru yn llai o risg na dal y bws olaf adref o Gaer ar ôl noson allan.

“Mae’n bosibl nad dyna’r unig beth y byddech yn ei ddal.”