Mae’n dal yn werth inni’n hatgoffa’n hunain o bryd i’w gilydd o rai o’r addewidion ysgubol gafodd eu gwneud gan ymgyrchwyr blaenllaw dros Brexit yn refferendwm 2016.

£350m yn ychwanegol bob wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd, cwymp dramatig mewn mewnfudo, cynnydd mewn cyflogau, cytundebau masnach newydd ledled y byd a rhagolygon da i’r economi.

Celwydd noeth wrth gwrs. Ond gadewch inni ddychmygu am funud beth fyddai’r sefyllfa wleidyddol pe bai’r bobol hyn, drwy ryfedd wyrth, wedi llwyddo i wireddu addewidion o’r fath dros y blynyddoedd diwethaf.

Y tebyg ydi y byddai Boris Johnson yn dal yn Brif Weinidog, er gwaethaf ei holl ffaeleddau a’i anaddasrwydd ar gyfer y swydd. Go brin y byddai’r math o ganran o bleidleisiau enillodd Llafur yr haf diwethaf wedi bod yn fygythiad gwirioneddol iddo. Gallwn fod yn sicr na fyddai neb yn gweld yr angen am blaid ymylol un-pwnc yn cael ei harwain gan Nigel Farage. Y sefyllfa go-iawn, fel y gwyddom wrth gwrs, ydi bod y Gwasanaeth Iechyd mewn mwy o argyfwng nag erioed, mewnfudo, yn enwedig mewnfudo anghyfreithlon, ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen, cyflogau’n aros yn eu hunfan, rhwystrau wrth fasnachu â’r cyfandir agosaf atom a rhagolygon gwael i’r economi.

A’r canlyniad? Un o’r ymgyrchwyr huotlaf dros achosi sefyllfa o’r fath yn mynd o nerth i nerth yn y polau piniwn, yn denu torfeydd o filoedd i wrando arno, a rhagolygon gwirioneddol i’w blaid ddiweddaraf ddisodli’r Torïaid fel y brif wrthblaid.

Yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ydi bod Nigel Farage yn cael ei wobrwyo am ei fethiant – yn ffurf canlyniadau truenus yr achos y bu’n ymgyrchu mor ddygn drosto. Mae ei lwyddiant yn peri ofn gwirioneddol i’r Torïaid ac i Lafur, gyda llawer o bobol ar y chwith yn darogan gwae am y dde eithafol ar gynnydd. Er hynny, i’r rheini ohonom nad oedd eisiau gweld Brexit yn llwyddo yn y lle cyntaf, gallwn gysuro’n hunain mai methiant yr holl brosiect sy’n bennaf gyfrifol am lwyddiant Reform.

Y Torïaid a Llafur mewn twll

Y gwir amdani ydi nad oes gan y Torïaid na Llafur neb i’w feio ond nhw eu hunain am lwyddiant Reform. Yn eu methiant i ddweud y gwir am Brexit, maen nhw wedi torri twll iddyn nhw eu hunain na fedran nhw ddod allan ohono’n hawdd. Mi fydd hi’n anodd teimlo unrhyw gydymdeimlad â’r Torïaid os byddan nhw’n dal i golli tir i Reform i’r graddau y byddan nhw’n cael eu disodli ganddi. Wnaeth neb orfodi’r Torïaid i gofleidio Brexit gyda’r fath arddeliad, nac ychwaith i ddiarddel ac esgymuno’r lleiafrif o’u plith oedd yn ddigon annibynnol eu barn i godi llais yn erbyn dilyn trywydd polisi mor niweidiol.

Yr eironi bellach ydi bod ymateb y Torïaid i fygythiad UKIP ar y pryd wedi bwydo bwystfil yn ffurf Reform sydd â’i fryd bellach ar wledda arnyn nhw.

Ymateb llawer ohonyn nhw i’r bygythiad hwn ydi trio eu hefelychu a dangos eu bod hwythau hefyd ag agweddau’r un mor galed yn erbyn mewnfudo. Mae o leiaf ddau reswm pam nad ydi hyn yn gweithio – sef eu record mewn llywodraeth ar hyd yr holl flynyddoedd diwethaf, a hefyd nad oes pwynt iddyn nhw fod yn dadlau neges mae Farage ei hun yn gallu ei dadlau yn llawer mwy grymus. Os mai cenedlaetholdeb Seisnig amrwd sydd ar bobol ei eisiau, pam fydden nhw’n dewis efelychiad gwael pan fo’r peth go-iawn ar gael?

Daeth i’r amlwg yn yr etholiad y llynedd y gall Reform fod yn llawn cymaint o fygythiad i Lafur ag i’r Torïaid. Mae hyn yn amlycach fyth yn wyneb amhoblogrwydd cynyddol llywodraeth Keir Starmer dros yr wythnosau diwethaf.

Mae Llafur hefyd wedi gwneud y dasg o ymateb i’r bygythiad yn llawer mwy anodd iddyn nhw eu hunain wrth fod mor dawedog ynghylch Brexit. Ar y llaw arall, gallai pleidiau eraill fel y Democrataid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, yr SNP a’r Gwyrddion, sydd heb ddim llyffetheiriau o’r fath, fanteisio llawer mwy ar fethiant Brexit er mwyn taro Reform.

Mae’n amheus i ba raddau mae darlunio Reform fel rhan o ryw fath o dueddiad sinistr eithafol asgell dde yn ffordd effeithiol o ymladd yn eu herbyn. Mae digon o Aelodau Seneddol Torïaidd sydd yr un mor asgell dde p’run bynnag. Mae codi ofnau’n ormodol yn tueddu hefyd i ddyrchafu pwysigrwydd Nigel Farage a chadarnhau’r ddelwedd ohono fel rhywun sy’n fygythiad gwirioneddol i’r drefn ac i’r rheini sydd mewn grym. Mae ei gyhuddo o fod yn hiliol, yn enwedig, yn ffordd gwbl aneffeithiol o ymladd yn ei erbyn. Mae’r term hiliaeth bellach wedi cael ei lastwreiddio’n llwyr gan y ffordd mae’r cymaint o radicaliaid asgell chwith gwleidyddol gywir wedi ei orddefnyddio dros y blynyddoedd. Daw’n amlwg fod trwch y boblogaeth yn ymwrthod fwyfwy â’r feddylfryd fod unrhyw fath o feirniadaeth o fewnfudo neu fewnfudwyr yn gyfystyr â bod yn hiliol. O’r herwydd gall Nigel Farage ddadlau ar dir cadarn ei fod yn barod i ddweud yr hyn y mae pobol yn ei feddwl go-iawn.

Yn ogystal, mae angen i bawb ohonom fod yn fwy parod i gydnabod peryglon diwylliant gwleidyddol sy’n peri i bobl fod ofn cael cyhuddiadau o hiliaeth yn eu herbyn. Cawsom ein hatgoffa dros y dyddiau diwethaf hyn sut y gall diwylliant o’r fath arwain at ganlyniadau gwirioneddol drychinebus. Mae’n wir, wrth gwrs, fod elfennau eithafol asgell dde yn ceisio manteisio ar drallodion teuluoedd merched ifanc a gafodd eu treisio gan gangiau o ddynion Asiaidd yng ngogledd Lloegr. Mae’n bosibl hefyd fod elfen o or-ddweud am y graddau’r oedd ofnau am gyhuddiadau o hiliaeth wedi cadw’r gwir o lygad y cyhoedd. Er hyn i gyd, dylai hyd yn oed yr amheuaeth leiaf fod yn ddigon i beri pryder mawr. Mae unrhyw awgrym y gallai ofnau o’r fath fod wedi llesteirio ymchwiliadau’r heddlu i droseddau mor ffiaidd â threisio plant yn arwydd o gymdeithas sydd wedi colli ei greddfau moesol.

Chwalu’r ddelwedd

Rhan gwbl allweddol o apêl Nigel Farage ydi’r ddelwedd ffug a thwyllodrus mae wedi ei greu iddo’i hun o fod yn dipyn o rebel yn erbyn y sefydliad. Yn eironig, dyma hefyd ddylai fod y ddelwedd ohono sydd hawsaf ei chwalu.

Y gwir amdani ydi mai Nigel Farage a’i debyg ydi’r Sefydliad Seisnig bellach. Maen nhw wedi llwyddo i gyflawni’r hyn roedden nhw ei eisiau mewn gwleidyddiaeth – sef cael Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae lle i ddadlau pa mor wirioneddol arwyddocaol oedd cyfraniad unigol Farage. Ond mae’n ddigon parod i hawlio’r clod am Brexit yn gyfan gwbl iddo fo’i hun pa bynnag gyfle a gaiff. Mae felly’n hen bryd i’w elynion gwleidyddol ei orfodi i dderbyn cyfrifoldeb am hynny, ac edliw’r bai arno am ganlyniadau ei weithredoedd.

Mae’r ddadl sydd ganddo y byddai Brexit wedi bod yn llwyddiant pe bai wedi cael ei weithredu’n llymach yn chwerthinllyd o wan yn wyneb y dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Dylai fod yn fater hawdd i’r pleidiau eraill chwalu’r fath honiad yn llwyr.

Ond os ydi’r pleidiau o ddifrif am guro Reform, mae’n rhaid iddyn hwythau hefyd ddechrau ei herio drwy daro’n ôl gydag dulliau yr un mor gyfrwys yn ei erbyn. Mae angen iddyn nhw atgoffa’r cyhoedd yn barhaus gymaint mwy o fewnfudo sydd wedi digwydd ers Brexit, a phlannu’r amheuaeth ym meddyliau pobol fod cysylltiad rhwng y naill a’r llall. Mi fyddai’n gwbl resymol dadlau wedyn bod Nigel Farage o leiaf yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mewn mewnfudo, gan gynnwys mewnfudo anghyfreithlon, i Brydain dros y blynyddoedd diwethaf. Mi fyddai wrth gwrs yn dadlau’n daer fod yr honiad yn annheg a chamarweiniol, ond ers pryd mae wedi gadael i ystyriaethau o’r fath ei lyffetheirio?

Llawn gwacter

Dylai fod yn fwyfwy amlwg bellach mai’r camgymeriad gwaethaf y gall neb ei wneud i Nigel Farage ydi dyrchafu ei hunanbwysigrwydd.

Yn lle ei ddarlunio fel ffigwr sinistr a pherygl, yr hyn ddylai pleidiau eraill ei wneud ydi gwneud mwy o hwyl am ei ben. Ei ddarlunio (yn gwbl gywir a theg) fel enghraifft berffaith o’r math hwnnw o wleidydd sy’n addo pethau mae’n gwybod yn iawn na all eu cyflawni. Dyn sy’n barod i ddweud unrhyw beth sydd am helpu i wireddu ei uchelgais o fod y Brif Weinidog. (Does dim amheuaeth mai ar hyn mae ei holl fryd bellach, ac y bydd yn fodlon cyfaddawdu ar unrhyw beth i gael llwyddiant etholiadol).

Mae’n rhaid derbyn bod gan Nigel Farage ddoniau anghyffredin a diamheuol fel areithiwr, a dealltwriaeth drylwyr o feddylfryd a diwylliant llawer o etholwyr cyffredin. Mae hefyd weithiau’n gallu dangos rhywfaint o ddoethineb gwleidyddol, fel y gwnaeth yr wythnos yma trwy ymbellháu ei hun oddi wrth rai o honiadau mwyaf afresymol Elon Musk. Er hyn, mae’n annhebygol o allu ymatal rhag ei eilun addoliaeth chwerthinllyd o Donald Trump dros yr wythnosau nesaf – gan wneud ei hun yn darged hawdd eto i’w elynion gwleidyddol.

Y ffaith syml amdani ydi bod Nigel Farage yn llawn gwacter. Ond parhau i lwyddo y bydd ef a’i blaid hyd nes y bydd ei wrthwynebwyr gwleidyddol yn gallu cyfleu’r gwirionedd hwnnw yn llawer gwell nag y maen nhw ar hyn o bryd.