Mae’r aelod olaf o griw o gyffurgwn a ddaeth a chocên a heroin o Lannau Mersi a gogledd Cymru i Aberystwyth a Llanelli wedi cael ei garcharu am 44 mis.
Yn 2018, cafodd 33 o bobol eu carcharu am gyfanswm o 215 o flynyddoedd am eu rhan mewn cyflenwi cyffuriau, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys rhwng 2016 a 2017.
Ond roedd un ohonyn nhw heb ei ddedfrydu tan ddydd Llun, Tachwedd 30, pan aeth Hillal Mukbil Saleh gerbron Llys y Goron Abertawe.
Cafodd ei ddedfrydu i 44 mis o garchar am gynllwynio i gyflenwi heroin, a thri mis ychwanegol am anwybyddu telerau ei fechnïaeth wrth fethu â mynd i’r llys.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn 2017 ond cafodd gwarant ei gyhoeddi fis Hydref y flwyddyn honno pan ddaeth i’r amlwg nad oedd e’n bresennol ar gyfer gwrandawiad llys.
Aeth Saleh at yr heddlu o’i wirfodd ddeufis yn ôl, ac fe aeth gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Llun diwethaf gan bledio’n euog i gynllwynio.
Dywed yr heddlu iddyn nhw gael siom fod un o’r troseddwyr heb ei ddedfrydu tan yn ddiweddar, er i 33 arall gael eu dedfrydu eisoes.