Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhybuddio trigolion Aberystwyth i barhau i ddilyn cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae nifer yr achosion yn y dref, a’r sir yn gyffredinol, wedi cynyddu’n sylweddol dros y pum niwrnod diwethaf i’w lefel uchaf ers dechrau’r pandemig.

Y gyfradd yng Ngheredigion erbyn ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 4) oedd 154.1 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth.

Mae’r Cyngor Sir yn dweud bod eu tystiolaeth yn awgrymu bod y gyfradd wedi gostwng yn Aberteifi wrth i bobol ddilyn y cyfyngiadau, ac maen nhw’n “gofyn i’n trigolion yn ardal Aberystwyth wneud yr un peth”.

Pobol yn eu 20au sy’n cael eu heintio’n bennaf yn y dref ar hyn o bryd, yn ôl y Cyngor Sir, sy’n dweud bod grwpiau o bobol yn parhau i ddod at ei gilydd yn y gweithle ac yn gymdeithasol.

Datganiad

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd cyfyngu ar nifer y bobl rydyn ni’n eu gweld, ond mae cyfyngu eich cysylltiadau yn hanfodol er mwyn cadw nifer y bobol sydd â’r feirws i lawr a dyma sut y byddwn yn amddiffyn ein hanwyliaid yn y pen draw,” meddai Cyngor Sir Ceredigion mewn datganiad.

“Bydd Cyngor Sir Ceredigion bob amser yn cymryd y camau angenrheidiol i gadw ein trigolion yn ddiogel a bydd yn cymryd camau pendant pan fo angen.

“Mae ein Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd yn gweithio gyda chydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r rheoliadau ac wedi cyflwyno sawl hysbysiad dros yr wythnosau diwethaf lle mae angen gwella.”

Maen nhw’n atgoffa pobol fod symptomau’r coronafeirws yn cynnwys:

  • tymheredd uchel
  • peswch cyson newydd
  • colli’r gallu i arogli neu flasu

Ond maen nhw hefyd yn dweud bod nifer sylweddol o achosion lle nad oedd gan bobol symptomau.

“Mae llawer ohonynt yn dweud mai’r arwyddion cyntaf yw pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer,” meddai wedyn.

“Felly rydym yn annog pobol sy’n teimlo’n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

“Rhaid i unrhyw un â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref dim ond i gael eich profi.

“Ni ddylai unrhyw un fynd i’r gwaith na gadael y tŷ os oes ganddynt unrhyw symptomau – ystyriwch a diogelwch gymaint ag y gallwch bawb yn swigen eich aelwyd.”

Maen nhw hefyd yn cynghori pobol i ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Cadw pellter o 2m oddi wrth eich gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchi eich dwylo’n rheolaidd;
  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Gall aelwydydd ffurfio ‘swigen’ gyda’i gilydd – ni ellir cyfnewid, newid na hymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;
  • Caniateir i bobl gyfarfod ag eraill tu allan i’r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty lle mae protocolau diogelwch llym ar waith. Ond, pedwar person yw nifer y bobl sy’n gallu cyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
  • Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunan-ynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref i gael prawf yn unig. Mae angen archebu prawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.