Bydd rhaid cadw ieir, twrcwn ac adar eraill dan do o Ragfyr 14 yn sgil achosion o’r ffliw adar.

Daw’r penderfyniad yn dilyn trafodaethau rhwng prif filfeddygon Cymru, Lloegr a’r Alban.

Mae’r achosion yn effeithio ar adar caeth a gwyllt, ond mae’r prif filfeddygon yn dweud bod y perygl i bobol yn isel iawn.

Serch hynny, maen nhw’n dweud bod angen iddyn nhw “weithredu ar frys”.

Bydd modd i ffermwyr barhau i hysbysebu “cig o’r buarth” ar yr amod nad yw’r mesurau’n para mwy na 12 wythnos, ac wyau am hyd at 16 wythnos.

Ar ôl hynny, bydd rhaid hysbysebu bod wyau wedi’u cynhyrchu o’r beudy.