Bydd trafodaethau Brexit yn parhau heddiw, a’r tebygolrwydd yw mai hwn fydd cyfle olaf Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i sicrhau cytundeb masnach.

Bydd yr Arglwydd Frost a Michel Barnier, prif drafodwyr y naill ochr a’r llall, yn cyfarfod heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 6) i geisio unwaith eto i daro bargen.

Ond prin yw’r amser sydd ar ôl erbyn hyn.

Daw’r cyfarfod diweddaraf ar ôl i Boris Johnson ac Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, gynnal trafodaethau dros y ffôn ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5).

Mae un ffynhonnell o Lywodraeth Prydain yn dweud mai “tafliad ola’r dis” fydd y trafodaethau heddiw, gan rybuddio bod rhaid i’r Undeb Ewropeidd “fod yn barod i barchu egwyddorion sylfaenol sofraniaeth a rheolaeth”.

‘Gwahaniaethau sylfaenol’

Yn dilyn eu cyfarfod, dywedodd Boris Johnson ac Ursula von der Leyen mewn datganiad ar y cyd fod yna “wahaniaethau sylfaenol” rhyngddyn nhw o hyd.

Mae’r rhain yn cynnwys pysgodfeydd, rheolau cystadleuaeth a’r trefniadau llywodraethiant ar gyfer unrhyw fargen.

“Fe wnaeth y ddwy ochr danlinellu na fydd unrhyw gytundeb yn bosib os na fydd y materion hyn yn cael eu datrys,” meddai’r ddau yn eu datganiad.

Yr Arglwydd Frost a Michel Barnier

Cyhoeddodd yr Arglwydd Frost a Michel Barnier ddydd Gwener (Rhagfyr 4) eu bod nhw am oedi’r trafodaethau yn dilyn yr anghytundeb diweddaraf.

Bydd yr Arglwydd Frost yn dychwelyd i Frwsel gyda’i dîm bach i geisio datrys y materion sydd yn weddill.

Mae lle i gredu nad yw Llywodraeth Prydain yn fodlon bod yr Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno “gofynion di-gynsail a munud olaf” a fyddai wedi ymrwymo Prydain i reolau Ewropeaidd “am dragwyddoldeb”.

Roedden nhw’n cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o geisio datrysiad “afrealistig”.

Beth nesaf?

Yfory (dydd Llun, Rhagfyr 7), bydd aelodau seneddol yn pleidleisio er mwyn penderfynu a fyddan nhw’n gwyrdroi gwelliannau’r Arglwyddi sy’n tynnu gofynion Bil y Farchnad Fewnol allan o ddeddfwriaeth er mwyn gwarchod ffiniau Iwerddon.

Byddan nhw wedyn yn ystyried y Bil Trethi ddiwedd yr wythnos am resymau tebyg.

Mae’r ddeddfwriaeth eisoes wedi cythruddo’r Undeb Ewropeaidd wrth i Lywodraeth Prydain geisio cyflwyno mesurau a fyddai’n eu galluogi i anwybyddu amodau’r fargen.