Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Millwall wedi cael eu beirniadu am ddangos eu gwrthwynebiad i’w chwaraewyr eu hunain am “gymryd y ben-glin” i gefnogi ymgyrch gwrth-hiliaeth Black Lives Matter.

Fe ddigwyddodd cyn eu gêm yn erbyn Derby ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 6), pan wnaeth y cefnogwyr ddangos eu dicter yn ystod y weithred.

Roedd hyd at 2,000 o gefnogwyr yn y gêm ar ôl i reolau coronafeirws Lloegr gael eu llacio.

Mae Sanjay Bhandari, cadeirydd yr ymgyrch gwrth-hiliaeth Kick It Out, wedi canmol chwaraewyr y ddau dîm am beidio ag ildio i bwysau’r cefnogwyr ac am anwybyddu “casineb rhai cefnogwyr” yn y Den, sef cartref Millwall.

“Rydym yn drist yn sgil ymddygiad cefnogwyr oedd yn bŵio’r chwaraewyr am gymryd y ben-glin heddiw ym Millwall,” meddai mewn datganiad.

“Yr hyn mae’n ei ddangos yw fod y chwaraewyr yn iawn i barhau i sefyll i fyny i wahaniaethu, boed trwy gymryd y ben-glin neu drwy siarad am y peth.

“Mae’r frwydr am gydraddoldeb hiliol yn parhau, a byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â chlybiau ledled y wlad i herio gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau.

“Rydym yn annog y chwaraewyr i barhau i ddefnyddio’u llwyfannau a’u lleisiau i gefnogi’r frwydr hon.

“Rydym yn canmol chwaraewyr Millwall a Derby am wneud safiad ac am wrthwynebu’r casineb a gafodd ei ddangos gan rai cefnogwyr heddiw.”

Ymateb y timau

Roedd Colin Kazim-Richards, ymosodwr Derby, ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu agwedd cefnogwyr Millwall, gan ddweud bod y digwyddiad yn “hollol warthus”.

Dywedodd ei fod yn “sefyll yn falch” ac mai’r digwyddiad ddoe yw’r union reswm pam ei fod yn “sefyll” ac yn “sefyll yn falch”.

Mae Gary Rowett, rheolwr Millwall, hefyd wedi dweud ei fod yn teimlo’n “rhwystredig” fod yr helynt wedi bod yn gysgod tros y gêm.

“Dw i’n siomedig ein bod ni’n siarad am hynny pan ddylen ni fod yn siarad am y ffaith ein bod ni i gyd yn ôl ac eisiau mwynhau gêm bêl-droed eto,” meddai.

“Mae’r clwb yn gwneud gwaith enfawr ar wrth-hiliaeth ac mae’r clwb hefyd yn gwneud llawer o waith yn y gymuned, ac mae pethau positif iawn, felly wrth gwrs fy mod i’n siomedig.”

Mae’n cwestiynu ai gweithred wleidyddol neu wrth-hiliaeth yw cymryd y ben-glin.

“Ai neges wleidyddol yw hi, ai neges wrth-wahaniaethu yw hi?” meddai

“Mae’r chwraewyr wedi dod allan a dweud nad ydyn nhw’n cefnogi’r elfen wleidyddol, ond maen nhw’n cefnogi’r elfen wrth-wahaniaethu, wrth gwrs rydyn ni i gyd.”

Dywedodd Wayne Rooney, rheolwr dros dro Derby, iddo gael ei “synnu”.

“Dw i ddim eisiau dweud rhyw lawer am y peth, ond y cyfan alla i ei ddweud yw fod pawb yng Nghlwb Pêl-droed Derby yn amlwg wedi cymryd y ben-glin, a does neb yn derbyn yr ymddygiad hynny.”

Ymateb yr awdurdodau

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a’r Gynghrair Bêl-droed wedi ymateb i’r digwyddiad.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi beirniadu ymddygiad y cefnogwyr, yn dilyn trafodaeth ar fforwm ar-lein am y weithred cyn y gêm.

“Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn cefnogi’r holl chwaraewyr a staff sydd eisiau gwneud safiad yn erbyn gwahaniaethu mewn modd parchus, sy’n cynnwys cymryd y ben-glin, ac yn beirniadu’n llym ymddygiad unrhyw gefnogwyr sy’n lleisio’u gwrthwynebiad i’r fath weithgareddau,” meddai’r datganiad.

Neges debyg oedd gan y Gynghrair Bêl-droed hefyd.

“Mae’r Gynghrair Bêl-droed yn parhau i gefnog unrhyw chwaraewr unigol, chwaraewyr a chlybiau sy’n dewis ‘cymryd y ben-glin’ i gefnogi herio anghydraddoldeb yn y gymdeithas,” meddai eu datganiad nhw.

“Rydym yn siomedig fod carfan fach o gefnogwyr wedi dewis lleisio’u gwrthwynebiad heddiw i’r fath weithredoedd sydd wedi’u targedu’n uniongyrchol at godi ymwybyddiaeth o’r frwydr yn erbyn hiliaeth.

“Does dim croeso i wahaniaethu o unrhyw fath ac rydym yn parhau i ymrwymo i gydweithio â’n clybiau, gan gynnwys Millwall, sy’n ymgymryd â swm sylweddol o waith ar fentrau cydraddoldeb a chynhwysiant, wrth i ni barhau â’n nod ar y cyd o ddileu pob math o ymddygiad o wahaniaethu, gan sicrhau bod Cynghrair Bêl-droed Lloegr yn amgylchfyd cynhwysol ac amrywiol i bawb.”

Ymateb Millwall

Mae Clwb Pêl-droed Millwall bellach wedi ymateb i’r helynt, gan ddweud eu bod nhw wedi “digalonni a thristháu”.

“Mae’r clwb wedi gweithio’n ddiflino dros y misoedd diwethaf i baratoi i gefnogwyr gael dychwelyd ac roedd cysgod llwyr dros yr hyn a ddylai fod wedi bod yn achlysur positif a chyffrous, er mawr siom a thristwch i’r sawl sydd wedi cyfrannu at yr ymdrechion hynny,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Mae effaith y fath ddigwyddiadau i’w theimlo nid yn unig gan y chwaraewyr a’r rheolwyr ond gan y sawl sy’n gweithio drwyddi draw yn y clwb a’i academi ac ymddiriedolaeth gymunedol, lle mae cynifer o staff a gwirfoddolwyr yn parhau â’u hymdrechion angerddol i wella enw da Millwall ddydd ar ôl dydd, blwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Fydd y clwb ddim yn gadael i’w gwaith arbennig fod yn ofer.

“Mae’r chwaraewyr yn parhau i ddefnyddio’r llwyfan mwyaf sydd ganddyn nhw i gefnogi’r ymgyrch o blaid newid, nid dim ond yn y byd pêl-droed ond yn y gymdeithas yn gyffredinol.

“Mae llawer o waith i’w wneud ac ym Millwall, mae pawb yn ymroi i wneud popeth posib, yn unigol a gyda’n gilydd, i ysgogi daioni ac i sicrhau bod y clwb yn aros ar flaen y gad o ran ymdrechion gwrth-wahaniaethu y byd pêl-droed.

“Dros y dyddiau i ddod, bydd staff y clwb, yr academi a’r ymddiriedolaeth gymunedol yn cyfarfod â Kick It Out a chynrychiolwyr o gyrff priodol eraill mewn ymgais i ddefnyddio’r digwyddiadau dydd sadwrn fel sbardun ar gyfer datrysiadau cyflym fydd yn cael effaith yn y tymor byr a’r tymor hir.

“Bydd sylw pellach yn cael ei wneud unwaith mae’r cyfarfodydd a’r trafodaethau hynny wedi dod i ben.”