Aberystwyth 1-3 Cei Connah

Cadwodd Cei Connah y pwysau ar y Seintiau Newydd ar frig y tabl gyda buddugoliaeth dros Aberystwyth ar Goedlan y Parc nos Wener.

Roedd hi’n gêm agos am gyfnodau hir cyn i ddwy gôl hwyr gan Mike Wilde ei hennill hi i’r ymwelwyr.

Davies ar dân

Os oes un chwaraewr yn y Cymru Premier ar dân ar hyn o bryd, cefnwr Cei Connah, Danny Davies, yw hwnnw.

Ar ôl serennu’r penwythnos diwethaf a sgorio ganol wythnos, fe rwydodd eto yn y gêm hon, ac am gôl! Dangosodd sgiliau gwych i reoli’r bêl a churo’i ddyn ar yr asgell chwith cyn rhedeg i’r cwrt cosbi a llithro’r bêl heibio i Connor Roberts yn y gôl hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Unionodd Aber yn erbyn llif y chwarae yn gynnar yn yr ail gyfnod, Steven Hewitt yn sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd dwp Callum Morris ar Steff Davies.

Drama Wilde

Ond gyda’r pwynt o fewn cyrraedd y tîm cartref, cafodd ei gipio oddi arnynt gan ddwy gôl mewn dau funud gan Wilde.

Roedd y gyntaf o ddwy lath yn dilyn llanast amddiffynnol yn y cwrt chwech ac er nad oedd y ar ail o fawr pellach, roedd honno’n orffeniad bach digon destlus wrth y postyn agosaf.

Gyda’r Seintiau ddim yn chwarae’r penwythnos hwn, mae’r canlyniad hwn yn cau’r bwlch ar y brig i dri phwynt cyn i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn nesaf.

 

 

Pen-y-bont 6-0 Caernarfon

Cafwyd perfformiad rhagorol gan Ben-y-bont wrth iddynt roi crasfa i Gaernarfon o flaen camerâu Sgorio yn Stadiwm SDM Glass brynhawn Sadwrn.

Cododd tîm Rhys Griffiths i’r pumed safle yn y tabl wrth roi chwe gôl heibio i’r Cofis.

Iawn ’Bont

Llwyr reolodd y tîm cartref o’r dechrau i’r diwedd ac roeddynt ar y blaen wedi llai na chwarter awr, Kostya Georgievsky yn dangos mwy o awch na amddiffyn Caernarfon i gyrraedd y bêl yn gyntaf yn y cwrt chwech yn dilyn arbediad da Tyler French.

Roedd Nathan Wood yn meddwl ei fod wedi dyblu’r fantais ond dyfarnwyd fod Ben Ahmun yn camsefyll er ei bod hi’n anodd gweld sut yr oedd y blaenwr yn amharu â’r chwarae.

Gwnaeth Ahmun yn iawn am ei gyfraniad annefnyddiol yn fuan wedyn serch hynny gyda chwarae rhif naw nodweddiadol, yn dal y bêl i fyny cyn gosod gôl ar blât i Lewis Harling.

Crafu pen i’r Cofis

Os oedd Caernarfon yn wael yn yr hanner cyntaf, roeddynt yn waeth yn yr ail. Roedd Georgievsky yn ddraenen gyson yn eu hystlys ac ef a gafodd drydedd ei dîm toc cyn yr awr, yn torri’r trap camsefyll cyn llithro’r bêl heibio i French yn y gôl.

Gwaith gwych gan Georgievsky ar y dde a greodd y bedwaredd i Harling cyn i Ahmun ymuno yn yr hwyl gyda foli droed chwith daclus i’r gornel isaf.

Yr eilydd, Ian Trayler, a gafodd y chweched, yn gorffen yn grefftus wedi gwaith da Wood ar y chwith.

Mae’r canlyniad yn cadw Caernarfon yn yr hanner isaf, yn nes at y ddau isaf na’r chwech uchaf. Siawns y bydd cwestiynau’n dechrau cael eu gofyn am dactegau a pholisi recriwtio Huw Griffiths os fydd pethau’n parhau fel hyn.

Roedd yn berfformiad mor wael nes i’r rheolwr benderfynu ymddiheuro’n gyhoeddus amdano. 

 

 

Hwlffordd 1-1 Derwyddon Cefn

Cafwyd drama hwyr ar Ddôl y Bont wrth i Hwlffordd achub pwynt yn erbyn deg dyn y Derwyddon Cefn.

Roedd hi’n ymddangos fod y tîm ar y gwaelod yn mynd i gipio’r tri phwynt yn Sir Benfro cyn gôl Elliot Scotcher yn yr eiliadau olaf.

Goliau ail hanner

Camgymeriad amddiffynnol a arweiniodd at gôl Joseph Faux i’r Derwyddon yn gynnar yn yr ail hanner, ond yn anffodus rwyf wedi gwneud y jôc faux-pas un waith y tymor hwn yn barod!

Bu’n rhaid i’r ymwelwyr chwarae’r hanner awr olaf gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn Ryan Kershaw ac er iddynt ddod yn agos at ddal eu gafael, fe dorrwyd eu calonnau gan gic rydd Scotcher yn yr ail funud o amser brifo ar ddiwedd y gêm

Mae’r Derwyddon yn aros ar waelod y tabl a Hwlffordd yn llithro un lle, i’r chweched safle.

 

 

Met Caerdydd 1-1 Y Bala

Cafwyd dwy gôl hwyr wrth i Met Caerdydd a’r Bala rannu’r pwyntiau ar Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Ollie Hulbert y tîm cartref ar y blaen cyn i Henry Jones daro nôl i’r ymwelwyr.

Bristol Rovers ar y blaen

Gôl wedi ei chreu ym Mryste a oedd yr un a roddodd Met ar y blaen chwe munud o ddiwedd y naw deg wrth i’r ddau chwaraewr sydd ar fenthyg o Bristol Rovers gyfuno, Harry Warwick yn creu a Hulbert yn gorffen.

Dau beniad a arweiniodd at y gôl a achubodd bwynt i’r Bala, un amddiffynnol gwael yn rhoi’r bêl yn ôl yng nghanol y cwrt cosbi, ac un ymosodol da gan Jones i fanteisio.

 

 

Y Barri 6-3 Y Fflint

Cafwyd gwledd o goliau ar Barc Jenner wrth i’r Barri guro’r Fflint brynhawn Sadwrn.

Er i’r ymwelwyr o’r gogledd ddwyrain wneud gêm ohoni gyda thair gôl, fe ddiogelodd y tîm cartref y tri phwynt wrth rwydo chwech.

Cotterill yn creu

Rhoddodd Jordan Cotterill y Barri ar y blaen wedi dim ond chwe munud wedi i amddiffyn y Fflint agor fel y môr coch iddo.

Ar ôl creu’r gyntaf, creodd Cotterill yr ail, yn sgwario’r bêl i Sam Bowen a orffennodd yn daclus.

Tynnodd Mark Cadwallader un yn ôl i’r ymwelwyr ond adferodd Kayne McLaggon ddwy gôl o fantais y tîm cartref gyda gôl unigol dda toc cyn yr egwyl.

Peniodd Luke Cooper gic rydd David Cotterill i gefn y rhwyd i roi golau dydd rhwng y ddau dîm yn gynnar yn yr ail hanner.

Y Tad McLaggon

Bu bron i McLaggon, a ddaeth yn dad yn gynharach yn yr wythnos, ychwanegu ei ail ef a phumed ei dîm yn gynnar yn yr ail hanner ond aeth ei ymgais acrobataidd fodfeddi heibio’r postyn.

Y Fflint yn hytrach a darodd nesaf, yn sgorio dwy gôl gyflym i greu diweddglo cyffrous, y naill i Cadwallader a’r llall i Connor Harwood.

Cafodd y Barri ail wynt wedi hynny a gorffennodd y gêm fel y dechreuodd hi, gyda Jordan Cotterill yng nghanol pethau.

Creodd bumed gôl y tîm cartref i Nat Jarvis cyn rhwydo ei ail ef a chweched ei dîm wedi gwrthymosodiad yn yr amser a ganiateir anafiadau ar ddiwedd y gêm, i roi gwedd gyfforddus ar sgôr terfynol gêm a oedd yn glos am gyfnod.

 

 

Gwilym Dwyfor