Mae tîm Wayne Pivac wedi curo’r Eidal ym Mharc y Scarlets gan orffen yn bumed yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.
Y tro diwethaf i Gymru groesawu’r Eidal i Lanelli oedd yn 1998 – enillodd Cymru’r gêm honno ym Mharc y Strade 23-20.
Roedd un newid hwyr i dîm Cymru gyda Jonathan Davies yn cymryd lle Johnny Williams yng nghanol cae.
Er i’r Eidal reoli’r gêm yn y munudau agoriadol Cymru oedd y cyntaf i groesi’r llinell – y mewnwr Kieran Hardy yn sgorio ei gais cyntaf yng nghrys coch Cymru a Callum Sheedy yn ychwanegu’r ddau bwynt.
Ar ôl deuddeg cymal yn nwy ar hugain yr Eidal y bachwr Sam Parry oedd y nesaf i groesi’r gwyngalch, a Sheedy unwaith eto yn ymestyn mantais Cymru.
Ond yn fuan wedyn ildiodd Sheedy gic gosb hawdd o flaen y pyst a chiciodd ei wrthwynebydd Paolo Garbisi bwyntiau cyntaf yr ymwelwyr.
Dechreuodd yr Eidal ail afael yn y gêm wedi i’r asgellwr Marco Zanon groesi’r llinell, a bu rhaid i Josh Adams adael y cae am ddeg munud ar ôl i Gymru ildio wyth o giciau cosb yn ystod yr hanner cyntaf.
Ychwanegodd Carbisi dri phwynt at y sgôr a dim ond pwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar yr hanner.
Hanner amser: Cymru 14–13 Yr Eidal
Er i Sheedy gicio cic gosb ar ddechrau’r ail hanner manteisiodd yr Eidalwyr ar y ffaith fod Cymru lawr i bedwar dyn ar ddeg. Carlamodd y blaenasgellwr Johan Meyer lawr yr asgell heibio Louis Rees-Zammit ac Ioan Lloyd i roi’r Eidal ar y blaen am y tro cyntaf.
Fodd bynnag arweiniodd chwarae da gan Faletau at drydydd cais i Gymru – yr eilydd Gareth Davies ddaeth o hyd i fwlch yn amddiffyn yr Eidalwyr i adennill y fantais – ond yn y cyfamser bu rhaid i’r capten Alun Wyn Jones adael y cae gyda anaf i’w ben glin.
Fe gafodd Gymru adfywiad yn y munudau olaf – a dau gais hwyr i George North a Justin Tipuric wedi eu trosi gan Sheedy yn mynd a’r gêm allan o afael yr ymwelwyr.
Dyma oedd cais rhif 41 North i Gymru, mae nawr 17 cais tu ôl i record cyn-asgellwr Cymru Shane Williams.
Er bod yna wendidau yn parhau yn ardal y gwrthdaro a’r safle gosod mi fydd tîm hyfforddi Wayne Pivac wedi’u plesio gan ymdrech y tîm i ddod yn ôl yn yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth, yn enwedig gwaith diwyd yr wythwr Taulupe Faletau, a gafodd ei enwi’n seren y gêm.
Cymru |
38-18 |
Yr Eidal |
Hardy, S.Parry, G.Davies, North, Tipuric |
Ceisiau |
Zanon, Meyer |
Sheedy (5) |
Trosiadau |
Garbisi |
Sheedy |
Ciciau Cosb |
Garbisi (2) |
Tîm Cymru
Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Josh Adams, 13. George North , 12. Jonathan Davies, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Callum Sheedy, 9. Kieran Hardy
Blaenwyr: 1. Nicky Smith, 2. Sam Parry, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowland, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. James Botham, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau
Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Wyn Jones, 18. Leon Brown, 19. Cory Hill, 20. Aaron Wainwright, 21. Gareth Davies, 22. Ioan Lloyd, 23. Jonah Holmes
Tîm yr Eidal
Olwyr: 15. Jacopo Trulla,14. Luca Sperandio, 13. Marco Zanon, 12. Carlo Canna, 11. Montanna Ioane, 10. Paolo Garbisi, 9. Stephen Varney
Blaenwyr: 1. Danilo Fischetti, 2. Luca Bigi (C), 3. Giosuè Zilocchi, 4. Marco Lazzaroni, 5. Niccolò Cannone, 6. Maxime Mbanda, 7. Johan Meyer, 8. Braam Steyn
Eilyddion: 16. Leonardo Ghiraldini, 17. Simone Ferrari, 18. Pietro Ceccarelli , 19. Cristian Stoian, 20. Michele Lamaro, 21. Guglielmo Palazzani, 22. Tommaso Allan, 23. Federico Mori
Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr)
Dyfarnwyr cynorthwyol: Luke Pearce (Lloegr) ac Alex Ruiz (Ffrainc)
TMO: Pascal Gaüzère (Ffrainc)