Jonathan Davies i ddechrau yn erbyn yr Eidal

Un newid hwyr i dîm Cymru i wynebu’r Eidal

Undeb Rygbi Cymru

Jonathan Davies

Mae’r canolwr Johnny Williams wedi tynnu allan o gêm Cymru yn erbyn yr Eidal – bydd Jonathan Davies yn cymryd ei le.

Roedd disgwyl i Johnny Williams ennill ei drydydd cap i Gymru cyn iddo anafu ei goes wrth hyfforddi brynhawn dydd Gwener.

Dydy Jonathan Davies, a fydd yn ymuno â George North ynghanol cae, heb chwarae ers anafu yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Bydd Cymru yn cystadlu gyda’r Eidal am y pumed safle yn y gystadleuaeth.

Cymru v Yr Eidal yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 4.45 y p’nawn.

Tîm Cymru

Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Josh Adams, 13. George North , 12. Jonathan Davies, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Callum Sheedy, 9. Kieran Hardy

Blaenwyr: 1. Nicky Smith, 2. Sam Parry, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowland, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. James Botham, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau

Eilyddion16. Elliot Dee, 17. Wyn Jones, 18. Leon Brown, 19. Cory Hill, 20. Aaron Wainwright, 21. Gareth Davies, 22. Ioan Lloyd, 23. Jonah Holmes

Tîm yr Eidal

Olwyr: 15. Jacopo Trulla,14. Luca Sperandio, 13. Marco Zanon, 12. Carlo Canna, 11. Montanna Ioane, 10. Paolo Garbisi, 9. Stephen Varney

Blaenwyr: 1. Danilo Fischetti, 2. Luca Bigi (C), 3. Giosuè Zilocchi, 4. Marco Lazzaroni, 5. Niccolò Cannone, 6. Maxime Mbanda, 7. Johan Meyer, 8. Braam Steyn

Eilyddion: 16. Leonardo Ghiraldini, 17. Simone Ferrari, 18. Pietro Ceccarelli , 19. Cristian Stoian, 20. Michele Lamaro, 21. Guglielmo Palazzani, 22. Tommaso Allan, 23. Federico Mori

Darllen mwy: 

← Stori flaenorol

Ymateb Elfyn Evans, gyda’i obeithion yn deilchion

Y Cymro Cymraeg o Ddolgellau wedi dod oddi ar y ffordd ym Monza

Stori nesaf →

Torquay v Wrecsam: y gêm gyntaf ers i’r rhediad di-guro ddod i ben

Collodd Wrecsam o 1-0 yn erbyn Altrincham ar y Cae Ras nos Fawrth (Rhagfyr 1)

Hefyd →

Jonathan Davies am adael y Scarlets ar ddiwedd y tymor

Mae’r canolwr wedi chwarae i’r rhanbarth mewn dau gyfnod gwahanol