Bydd tîm pêl-droed Wrecsam yn gobeithio taro’n ôl ar ôl y golled o 1-0 yn erbyn Altrincham ar y Cae Ras nos Fawrth (Rhagfyr 1), wrth iddyn nhw deithio i Torquay heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5).

Nifer fach o ohebwyr a sylwebyddion fydd yn cael bod yn y gêm gan fod Torquay wedi gorfod ad-drefnu’r stadiwm er mwyn galluogi cefnogwyr i fod yn bresennol ar ôl llacio’r cyfyngiadau ar gyfer gemau sy’n cael eu cynnal mewn ardaloedd Haen 1 a 2 yn Lloegr.

Torquay sydd ar frig y Gynghrair Genedlaethol ar hyn o bryd, ar ôl ennill dyrchafiad y tymor diwethaf.

Ond unwaith yn unig wnaeth Wrecsam eu herio y tymor diwethaf, wrth golli o 1-0.

Cafodd y gêm gyfatebol ar y Cae Ras ei gohirio yn sgil Storm Dennis, a chafodd y gêm mo’i had-drefnu wedyn ar ôl i’r tymor orfod dod i ben yn gynnar yn sgil y coronafeirws.