Mae tîm pêl-droed Casnewydd yn croesawu Morecambe i Rodney Parade heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5).

Mae’r ymosodwr Ryan Taylor ar gael am y tro cyntaf ers dechrau mis Hydref ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

Mae’r amddiffynnwr canol Kyle Howkins hefyd wedi gwella o’r un anaf.

Mae Kevin Ellison a Padraig Amond, y ddau ymosodwr, yn gobeithio cael eu dewis yn erbyn eu hen glwb.

O ran yr ymwelwyr, mae’r amddiffynnwr David Longe-King ar gael ar ôl bod allan ag anaf i groth y goes ers dechrau’r tymor.

Ac mae sawl chwaraewr yn dychwelyd ar ôl bod yn hunanynysu yn sgil y coronafeirws ac ar ôl gwella o gyfres o anafiadau.

Mae Alex Kenyon a Liam McAlinden wedi bod yn hunanynysu.

Gallai Nat Knight-Percival golli ei le pe bai Morecambe am ddewis pedwar yn y cefn, tra bod A-Jay Leitch-Smith yn gobeithio na fydd e ar y fainc eto.

Ond mae disgwyl i Liam Gibson gael prawf ffitrwydd ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.