Bydd tîm pêl-droed Caerdydd yn chwarae o flaen torf heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5) wrth iddyn nhw deithio i Watford.

Yn dilyn llacio cyfyngiadau coronafeirws Lloegr, mae ardaloedd Haen 2 yn gallu croesawu hyd at 2,000 o gefnogwyr i’w stadiymau chwaraeon am y tro cyntaf ers y cyfnod clo.

Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi llacio’r cyfyngiadau yn yr un modd, sy’n golygu na all cefnogwyr fynd i gemau yng Nghymru eto.

Mae Neil Harris, rheolwr yr Adar Gleision, ymhlith y rheolwyr sydd wedi bod yn cwyno am y sefyllfa, gan ddweud nad yw’n deg bod rhai timau’n unig yn cael croesawu cefnogwyr yn ôl i’w gemau.

Mae Caerdydd wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf – y tro cynta’r tymor hwn iddyn nhw wneud hynny.

Watford yw’r unig dîm yn y Bencampwriaeth sy’n dal yn ddi-guro ar eu tomen eu hunain.