Mae Alun Wyn Jones, capten tîm rygbi Cymru, wedi canmol y prif hyfforddwr Wayne Pivac am roi cyfle i chwaraewyr ifainc yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Daw blwyddyn siomedig Cymru i ben heddiw, wrth iddyn nhw herio’r Eidal yng ngêm derfynol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Dwy gêm yn unig allan o naw mae’r tîm wedi’u hennill eleni, a’r pumed safle yw eu targed.

Neges Wayne Pivac yn ystod y gystadleuaeth yw ei fod yn adeiladu dyfnder yn barod at Gwpan y Byd 2023.

Ymhlith y rhai sydd wedi torri trwodd mae’r asgellwr Louis Rees-Zammit, y canolwr Johnny Williams, y maswr Callum Sheedy a’r blaenasgellwyr Shane Lewis-Hughes a James Botham.

“Rhaid canmol Wayne,” meddai Alun Wyn Jones.

“Dw i’n gwybod fy mod i tu fewn i’r babell, felly galla i ychwanegu elfen o ragfarn, ond pan dynnwch chi’r peth yn ddarnau ac edrych ar benderfyniadau’r tîm rheoli, mae e wedi cadw at ei air ac wedi parhau i roi cyfleoedd i bobol.

“Mewn rhai o’r gemau oedd gyda ni, fe allai fod wedi chwarae’n ddiogel a mynd yn ôl at yr arfer o ddewis pobol sydd wedi chwarae o’r blaen.

“Mae e wedi cadw at ei air ac wedi rhoi cyfleoedd.

“Mae llawer o bobol a gafodd eu hanafu ac wedi’u hepgor o’r garfan hon, ac mae haen o chwaraewyr o hyd fydd yn ysu yng ngemau darbi y Nadolig [yn y PRO14] i ddychwelyd i’r garfan ar gyfer y Chwe Gwlad.

“Mae’n dda gweld y bois ifainc yn dod i mewn a gofyn y cwestiynau cywir.”

Ei ddyfodol ei hun

Mae Alun Wyn Jones eisoes wedi ennill 151 o gapiau rhyngwladol – sy’n cynnwys gemau dros y Llewod – a does dim arwydd ei fod e am roi’r gorau iddi ar ôl torri record y byd.

Mae ei holl brofiad yn golygu ei fod yn sylweddoli y bydd y tîm cenedlaethol yn cael cyfnodau aflwyddiannus o dro i dro.

“Dw i wedi bod yn ffodus ac yn anffodus o ran bod mewn sefyllfaoedd tebyg o’r blaen, ac rydych chi yn dod drwyddyn nhw,” meddai.

“Dw i’n gyfforddus gyda’r ffaith, pe na bai fy mherfformiadau’n ddigon da, y bydd craffu arnyn nhw fel unrhyw un arall.

“Ar ôl bod ynghlwm ers sbel nawr, mae angen procio rhai pobol ac mae angen rhoi braich o amgylch rhai pobol.

“Mae amser i danio roced, ond mae amser i bwyllo hefyd.

“Gallwch chi ymateb [yn chwyrn] ar adegau fel hyn, a all fod yn beryglus.

“O gael rhywun wrth y llyw sy’n parhau â’r un thema ac yn cefnogi’r hyn maen nhw’n ei ddweud, dw i’n gyfforddus yn dilyn yr esiampl yna a’i gefnogi fe.”