Wrth i dîm pêl-droed Abertawe groesawu Luton i Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5), fe fydd sawl tebygrwydd rhwng y ddau reolwr.

Cafodd Steve Cooper, rheolwr Abertawe, ei eni ym Mhontypridd, dafliad carreg o Flaenrhondda, lle cafodd Nathan Jones, rheolwr Luton, ei eni.

Mae’r ddau ymhlith carfan fechan iawn o saith o reolwyr o Gymru sydd wedi’u cyflogi gan un o dimau’r Gynghrair Bêl-droed ar hyn o bryd, ac roedden nhw wedi dilyn trywydd tebyg yn y dyddiau cynnar i gyrraedd lle maen nhw erbyn hyn.

Steve Cooper

Cafodd Steve Cooper ei eni ym Mhontypridd a’i fagu yn Nhrehopcyn yng Nghwm Rhondda.

Fe ddysgodd y grefft o chwarae pêl-droed gyda Chlwb Bechgyn Ynyshir a Chlwb Bechgyn Penygraig yng Nghynghrair Bêl-droed y Rhondda.

Yn gefnwr, chwaraeodd e i dîm Academi Wrecsam cyn symud i Gynghrair Cymru, lle chwaraeodd e i’r Seintiau Newydd, Y Rhyl, Bangor a Phorthmadog rhwng 1998 a 2003.

Dechreuodd ei yrfa fel hyfforddwr gydag Academi Wrecsam, lle treuliodd e ddegawd rhwng 1998 a 2008 cyn ymuno ag Academi Lerpwl, cyn cael ei benodi’n rheolwr ar dîm dan 16 Lloegr, a chael cyfnod llwyddiannus wedyn yn rheolwr ar y tîm dan 17 gan ennill Cwpan y Byd.

Abertawe oedd ei glwb proffesiynol cyntaf yn rheolwr.

Nathan Jones

Dechrau digon tebyg gafodd Nathan Jones i’w yrfa’n chwaraewr hefyd.

Yn hanu o Flaenrhondda, dechreuodd ei yrfa’n chwarae i dîm Academi Caerdydd cyn cael ei ryddhau yn 1991.

Rhwng 1991 a 1995, chwaraeodd e i Barc Maesteg, Merthyr Tudful cyn symud i Luton ond heb chwarae’r un gêm cyn symud at glwb Badajoz yn Sbaen, lle chwaraeodd e hefyd i Numancia cyn dychwelyd a chwarae i Southend, Scarborough (ar fenthyg), Brighton a Yeovil cyn ymddeol yn 2012.

Ar ôl hyfforddi tîm dan 21 Charlton a dal sawl swydd ar staff hyfforddi Brighton, lle’r oedd e hefyd yn rheolwr dros dro am gyfnod, cafodd ei benodi’n rheolwr ar Luton am y tro cyntaf yn 2016.

Ar ôl dyrchafiad gyda Luton i’r Bencampwriaeth, cafodd ei benodi’n rheolwr ar Stoke fis Ionawr y llynedd cyn cael ei ddiswyddo ddeng mis yn ddiweddarach.

Dychwelodd at Luton fis Mai eleni, 18 mis ar ôl gadael, ac mae ei dîm yn unfed ar ddeg yn y Bencampwriaeth ar ôl ennill chwe gêm allan o 15 a chael pedair gêm gyfartal.

Y ddau ben-ben eto

Dim ond dwywaith o’r blaen mae’r ddau reolwr wedi herio’i gilydd, a thimau Jones oedd yn fuddugol y ddau dro – a’r ddwy gêm yn y Liberty.

Fe wnaeth Stoke guro’r Elyrch o 2-1 fis Hydref y llynedd, cyn i Luton ennill o 1-0 ym mis Mehefin.

Ac mae Steve Cooper wedi dweud wrth golwg360 ei fod e’n disgwyl gêm anodd unwaith eto.

“Dim ond ddwywaith dw i wedi cwrdd â fe mewn gwirionedd, sef y tymor diwethaf,” meddai.

“Yn amlwg, wnaeth y canlyniadau ddim mynd yn rhy dda!

“Ond yn amlwg, dw i’n ymwybodol iawn o Nathan, ac fe gawson ni sgyrsiau da cyn y ddwy gêm y tymor diwethaf.

“Dw i’n credu ei fod e wedi gwneud yn wych ers dod yn ôl i Luton, ac fe wnaeth e’n dda iawn yn ei gyfnod cyntaf.

“Cafodd e brofiad yn Stoke a fydd yn ei wneud e’n well, dw i’n siŵr.

“Mae e wedi gwneud yn dda iawn ers mynd yn ôl [i Luton] ac mae hi’n mynd i fod yn gêm anodd oherwydd mae e’n sicrhau bod ei dimau’n chwarae pêl-droed yn dda. Maen nhw’n gweithio’n galed iawn.

“Maen nhw newydd gael canlyniad positif iawn y noson o’r blaen [curo Norwich o 3-1] ac maen nhw wedi cael canlyniadau da y tymor hwn, felly bydd rhaid i ni fod yn barod ym mhob ffordd.”

Taro’n ôl ar ôl colli ym Middlesbrough

Hon fydd trydedd gêm yr Elyrch mewn wythnos, ar ôl iddyn nhw guro Nottingham Forest o 1-0 oddi cartref ddydd Sul (Tachwedd 29) a cholli wedyn o 2-1 ym Middlesbrough nos Fercher (Rhagfyr 2).

Yn ôl Steve Cooper, mae’r tîm eisoes wedi rhoi’r canlyniadau blaenorol o’r neilltu.

“Maen nhw’n griw proffesiynol,” meddai am ei chwaraewyr.

“Mae hi bob amser yn siomedig colli gêm bêl-droed ond rydyn ni eisoes wedi symud ymlaen.

“Rydyn ni’n gwybod na wnaethon ni chwarae cystal ag y bydden ni wedi hoffi ond allwn ni ddim myfyrio am y peth.

“Byddwn ni’n sicr yn barod [i herio Luton].

“Rydyn ni ond yn canolbwyntio ar drio ennill y gêm nesaf.”

Pe baen nhw wedi ennill ym Middlesbrough, gallai’r Elyrch fod wedi codi i frig y Bencampwriaeth ond ar ôl colli, maen nhw bellach yn seithfed, ond ar 26 o bwyntiau, yr un nifer â Brentford uwch eu pennau yn safle ola’r gemau ail gyfle.

Mae gan Brentford wahaniaeth goliau o bedwar, un yn fwy na’r Elyrch.

Ond dydy’r manylion hynny ddim yn poeni Steve Cooper.

“Gall pethau newid cymaint mewn ychydig gemau,” meddai.

“Rydyn ni eisoes wedi chwarae rhywfaint, felly rhaid i chi ganolbwyntio ar beth sy’n dod nesaf.

“Pan ddaw adeg yn y tymor, wythnos Cwpan FA Lloegr neu doriad rhyngwladol ac y gallwch chi fyfyrio ar le’r ydych chi, efallai y gwnawn ni bryd hynny.”