Mae Elfyn Evans wedi ymateb i’r digwyddiad sydd wedi gadael ei obeithion o fod y Cymro cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Ralio’r Byd yn deilchion ym Monza.
Fe ddaeth e oddi ar y ffordd yn yr unfed cymal ar ddeg.
Yna canslwyd y deuddegfed cymal oherwydd y tywydd.
Mae hyn yn golygu mai’r Ffrancwr, Sébastien Ogier, sydd yn y sefyllfa orau i ennill y bencampwriaeth erbyn hyn.
“Ar ddechrau’r cymal, roedd tipyn o ddŵr ar y ffordd, ond ron i’n teimlo ein bod ni’n cael rhediad glân a thaclus.
“Ond mi ddechreuodd fwrw eira ac fe wnes i feddwl o hyd fy mod i’n mynd ychydig yn rhy araf – dyna’r teimlad cyffredinol.
“Fe waethygodd yr eira fymryn, ond doedd y gafael oedd gyda ni ddim yn ffôl o gwbl.
“Daethon ni rownd cornel dde fflat gydag ychydig o frecio ac roedd arwyneb y tarmac wedi newid.
“Pan wnes i frecio ar hwnnw, roedd fel gwydr a doedd dim gobaith ein bod ni am arafu o gwbl.
“Fe wnaeth roi syrpreis i fi, ond dyna sut mae, am wn i.
“Dydy hi ddim yn ddelfrydol – dyna ni, bron iawn ond beth alla i ei ddweud?
“Rhaid i chi fod yna, rhaid i chi roi cynnig arni.
“Dydy hi ddim ar ben yn llwyr tan ei fod ar ben ond yn amlwg mae dipyn haws i Seb ei gwneud hi erbyn hyn.”
Ymddiheuro
Mae Elfyn Evans hefyd wedi ymddiheuro wrth ei dîm.
“O’m hochr i, dw i wedi siomi ar ran y tîm a bod yn onest oherwydd o safbwynt y gwneuthurwr, roedd yn edrych yn dda iawn ar gyfer Toyota Gazoo,” meddai.
“Mae fy nghamgymeriad wedi chwalu’r jobyn hwnnw hefyd, felly mae’n ddrwg iawn gen i.
“Roedd gyda ni gar gwych a chriw gwych gydol y flwyddyn, felly dw i’n amlwg wedi siomi drosof fi fy hun ond drostyn nhw hefyd.”