Roedd buddugoliaethau i dimau pêl-droed Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5), ond colli oedd hanes Wrecsam.
Fe wnaeth Abertawe guro deg dyn Luton yn Stadiwm Liberty, gyda Connor Roberts yn sgorio yn y munudau agoriadol ac Andre Ayew yn taro chwip o ergyd yn hwyr yn yr ornest i sicrhau buddugoliaeth o 2-0.
Cafodd Matty Pearson gerdyn coch 21 munud cyn y diwedd am ail gerdyn melyn.
Sgoriodd Kieffer Moore unig gôl y gêm ar ôl 43 munud, wrth i Gaerdydd guro Watford oddi cartref o 1-0.
Mae’r Elyrch yn bedwerydd, a’r Adar Gleision yn unfed ar ddeg.
Rhwydodd Matt Dolan o’r smotyn yn hwyr yng ngêm Casnewydd i gipio’r triphwynt i dîm Mike Flynn yn erbyn deg dyn Morecambe yn yr Ail Adran.
Aethon nhw ar y blaen drwy Padraig Amond ar ôl 10 munud, cyn i Carlos Mendez Gomes unioni’r sgôr 21 munud yn ddiweddarach.
Cafodd Stephen Hendrie gerdyn coch am ail gerdyn melyn cyn i Dolan sgorio o’r smotyn yn dilyn y drosedd yn y cwrt cosbi.
Siom i Wrecsam
Colli o 3-1 yn Torquay yn y Gynghrair Genedlaethol wnaeth Wrecsam.
Sgoriodd Ben Whitfield i roi’r Saeson ar y blaen ar ôl pum munud o flaen eu cefnogwyr eu hunain.
Dyblodd Asa Hall y fantais ddeng munud yn ddiweddarach cyn i Theo Vassell benio gôl gyntaf Wrecsam ddwy funud wedyn.
Ond daeth y gôl dyngedfennol yn yr ail hanner wrth i Connor Lemonheigh-Evans rwydo ar ôl 73 munud.
Mae Wrecsam yn gostwng i’r degfed safle yn dilyn eu hail golled o’r bron.