Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac yn mynnu y gall tîm rygbi Cymru ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, er iddyn nhw orffen blwyddyn siomedig gydag ymgyrch yr un mor siomedig yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Dim ond tair gêm mae Cymru wedi’u hennill eleni, ac fe wnaethon nhw orffen y flwyddyn ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5) gyda buddugoliaeth o 38-18 dros yr Eidal ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Fe guron nhw’r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni, a’r unig dîm arall wnaethon nhw eu curo oedd Georgia.

Serch hynny, mae Wayne Pivac o’r farn y gall Cymru guro’r timau cryfaf yn hemisffer y gogledd yn y gwanwyn.

“Os awn ni’n ôl i’r cyfnod cyn y cyfnod clo, byddech chi’n dweud nad oedden ni ymhell ohoni, o ran gêm Ffrainc gartref a’r gêm yn erbyn Lloegr,” meddai.

“Yn amlwg, fe wnaethon ni ddewis carfan o fath gwahanol ar gyfer cyfres yr hydref, sydd wedi cael ei drafod eitha’ tipyn.

“Ond o gyfuno’r ddwy garfan a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu, hoffwn i feddwl y gwnawn ni roi cynnig arni.

“Does dim amheuaeth y bydd eraill yn meddwl [mai] Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon [yw’r ffefrynnau].”

‘Ddim yn berfformiad 80 munud’

Dydy Cymru ddim wedi colli yn erbyn yr Eidal ers 2007, gan ennill 15 o gemau o’r bron yn eu herbyn bellach.

Ond roedden nhw mewn perygl o golli eu ffordd pan aeth yr Eidal ar y blaen o 18-17 ar ddechrau’r ail hanner.

Serch hynny, sgoriodd Cymru bum cais yn y pen draw, gan gynnwys ceisiau cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol i’r mewnwr Kieran Hardy a’r bachwr Sam Parry, tra bod Gareth Davies, George North a Justin Tipuric hefyd wedi croesi’r llinell gais.

“Nid dyna’r perfformiad 80 munud roedden ni’n mynd amdano, ond mae’n mynd i’r cyfeiriad cywir,” meddai Wayne Pivac.

“Fe wnaethon ni ofyn cwestiynau am rai o’r chwaraewyr ac fe gawson ni rai atebion.

“Dyna’r oedden ni am ei gael allan o’r gêm, yn ogystal â’r canlyniad yn amlwg.

“Doedden ni ddim yn hapus wrth ildio 18 o bwyntiau ac roedd gormod o giciau cosb cyn hanner amser.

“Doedd mynd i lawr i 14 dyn [yn dilyn cerdyn melyn Josh Adams cyn yr egwyl] ddim yn y sgript ond unwaith wnaethon ni bwyllo eto gan ddychwelyd i 15 dyn, fe wnaethon ni orffen y gêm yn eitha’ cryf.

“Roedd gyda ni 11 yn chwarae yn eu gêm gyntaf ar ddechrau’r Chwe Gwlad, mae’r nifer yna’n enfawr.

“Rydyn ni wedi dysgu tipyn am y chwaraewyr hynny ac maen nhw hefyd wedi dysgu llawer.

“Allwch chi ddim prynu hynny, rhaid i chi fynd allan yn y gemau hynny a dysgu oddi wrthyn nhw.”