Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod gan Kieffer Moore fwy o sgiliau na sgorio goliau yn unig.
Rhwydodd ymosodwr Cymru unig gôl y gêm wrth i’r Adar Gleision guro Watford oddi cartref ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 6).
Roedd e’n bresenoldeb mawr yn y ddau gwrt gosbi wrth ymosod ac amddiffyn, ac fe wnaeth e fanteisio ar gamgymeriad Watford o gic gornel i sgorio.
“Nid dim ond goliau yw pethau Kieffer,” meddai Neil Harris.
“Dw i’n gobeithio y bydd e’n sgorio 20 neu 30 o goliau y tymor hwn, ond dyw e ddim yn ddyn 20 neu 30 o goliau nodweddiadol, er ei fod e’n beryglus dros ben ar hyn o bryd.
“Rydyn ni wedi cael sawl sgwrs gyda fe ar y cae ymarfer ac yn y swyddfa gyda’r gliniadur am ei gêm mewn safleoedd gwahanol, ail beli a pheli o amgylch y cwrt cosbi.
“Ar hyn o bryd, mae’r bêl yn ei ddarganfod e yn ogystal â’i fod e’n darganfod y bêl.”