Mae undeb athrawon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gau ysgolion yn gynnar cyn y Nadolig.
Yn ôl Undeb Athrawon Cenedlaethol Cymru (UCAC) gallai achosion o’r coronafeirws mewn ysgolion fis Rhagfyr olygu y byddai yn rhaid i ddisgyblion a staff hunan-ynysu dros y Nadolig.
Mae hanner ysgolion cynradd Cymru ac 87.9% o ysgolion uwchradd wedi cael o leiaf un achos o Covid-19 ers mis Medi.
Yn ôl arolwg gan UCAC mae 75% o aelodau’r undeb o blaid dysgu ar-lein yn ystod wythnos olaf y tymor.
Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ddysgu wyneb yn wyneb barhau tan ddiwedd y tymor.
‘Hollol annerbyniol’
Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, mae’r undeb yn awgrymu dylid cau ysgolion wythnos yn gynnar ar Ragfyr 11.
“Pe bai disgybl/myfyriwr yn cael ei brofi’n bositif gyda Covid-19 yn ystod wythnos olaf y tymor byddai hynny’n golygu bod y swigen gyfan hynny yn gorfod hunan-ynysu dros y Nadolig, heb allu cwrdd ag aelodau o deuluoedd estynedig,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young, yn y llythyr.
“Gallai’r un peth fod yn wir am y gweithlu addysg.
“Yn ogystal, gallai gwaith Profi, Olrhain a Diogelu fod yn parhau i arweinwyr a hynny ar ddiwrnod Nadolig, sy’n hollol annerbyniol.”
“Rydym yn ymwybodol iawn o’r angen i sicrhau parhad addysg i holl ddisgyblion a myfyrwyr Cymru, yn enwedig yn sgil y tarfu a fu yn gynharach yn y flwyddyn, ac sydd wedi parhau i ryw raddau ers mis Medi.
“Rydym o’r farn y byddai gwneud cyhoeddiad buan ynglŷn â hyn yn galluogi nid yn unig i’r gweithlu baratoi’n drylwyr am yr wythnos honno, ond hefyd yn galluogi teuluoedd i wneud trefniadau gofal plant amgen yn ôl yr angen.”
‘Bwysig nad yw plant yn colli allan’
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod y Llywodraeth yn parhau i drafod gydag awdurdodau addysg lleol ac undebau athrawon.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein hysgolion i weithio tan y Nadolig,” meddai yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Gwener, Tachwedd 27.
“Mae’n bwysig nad yw plant Cymru yn colli allan ymhellach ar yr addysg sydd wedi’i chynllunio ar eu cyfer yn ystod y tymor.”