Mae siop Starbucks newydd wedi agor yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 27).

Dyma fydd y Starbucks ‘Drive Thru’ cyntaf yn yr ardal a bydd yn creu 20 o swyddi newydd.

Mae’r siop newydd wedi’i lleoli ym Maes Parcio Morrison, Parc Pensarn, Caerfyrddin.

Bydd yn agored rhwng chwech y bore a deg yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Sul.

“Rydym mor gyffrous i agor ein siop newydd yng Nghaerfyrddin ac mae’r tîm yn dilyn arweiniad y llywodraeth leol a’r awdurdodau iechyd yn agos i gadw pawb yn ddiogel yn y siop,” meddai Gayl Norman, y Rheolwr Cyffredinol.

“Allwn ni ddim aros i ddechrau croesawu wynebau newydd dros yr wythnosau nesaf.”