Bydd hi’n “anodd” dod i gytundeb masnach ar ôl Brexit, meddai prif swyddog yr Undeb Ewropeaidd wrth iddi fwrw ymlaen â chynlluniau am ddim cytundeb.

Nododd Ursula von der Leyen gynlluniau ar gyfer cytundebau cyfreithiol brys i gadw awyrennau’n hedfan i’r Deyrnas Unedig a lorïau’n croesi Ewrop y diwrnod ar ôl i ginio gyda Boris Johnson fethu â chynhyrchu cam pendant.

Mae llywydd y Comisiwn Ewropeaidd a’r Prif Weinidog wedi cytuno y bydd penderfyniad ar ddyfodol y trafodaethau yn cael ei wneud erbyn diwedd y penwythnos.

Nododd yr Undeb Ewropeaidd gynigion ar gyfer cytundebau wrth gefn os nad oes cytundeb masnach ar waith pan ddaw’r trefniadau presennol i ben ar ddiwedd y mis, gan gynnwys ar lwybrau awyr, diogelwch hedfan, a thrafnidiaeth ffyrdd.

Un o’r pedwar mesur a gynigiwyd yw i gychod pysgota’r Undeb Ewropeaidd barhau i gael mynediad i ddyfroedd y Deyrnas Unedig yn ystod 2021, maes sydd wedi bod yn un o’r prif broblemau yn y trafodaethau.

“Sgwrs dda ond mae’n anodd”

Mewn uwchgynhadledd o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau (Rhagfyr 10), dywedodd Ursula von der Leyen: “Cefais sgwrs hir iawn neithiwr gyda’r Prif Weinidog Boris Johnson.

“Roedd yn sgwrs dda ond mae’n anodd. Rydym yn barod i roi mynediad i’r farchnad sengl i’n cyfeillion Prydeinig – dyma’r farchnad sengl fwyaf yn y byd.

“Ond mae’n rhaid i’r amodau fod yn deg. Mae’n rhaid iddynt fod yn deg i’n gweithwyr ac i’n cwmnïau, ac nid yw’r cydbwysedd tegwch hwn wedi’i gyflawni hyd yn hyn.”

Mewn ymateb i gynigion yr Undeb Ewropeaidd, pwysleisiodd Stryd Downing unwaith eto bwysigrwydd rheolaeth dros ddyfroedd y Deyrnas Unedig.

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Fydden ni byth yn derbyn trefniadau a mynediad i ddyfroedd pysgota’r Deyrnas Unedig sy’n anghydnaws â’n statws fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol.”

Ond dywedodd y llefarydd y bydd y Deyrnas Unedig yn “edrych yn ofalus” ar y bargeinion bach a gynigir gan yr Undeb Ewropeaidd os nad oes cytundeb cyffredinol.

Roedd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu diweddaru gan Ursula von der Leyen ar y cynnydd – neu’r diffyg cynnydd – yn ystod yr uwchgynhadledd ym Mrwsel.

Roedd y ffaith bod y negodwyr, yr Arglwydd Frost a Michel Barnier, yn cyfarfod eto ddydd Iau o leiaf yn cynrychioli ychydig o obaith.

Cytundeb “o fewn cyrraedd”, medd Micheal Martin

Dywedodd Taioseach Iwerddon, Micheal Martin, fod cytundeb “o fewn cyrraedd”.

“Mae’n gwneud synnwyr cael cytundeb fasnach. Rwy’n ymwybodol iawn o’r anawsterau sy’n ymwneud â chwarae teg, y mecanwaith datrys anghydfodau a physgodfeydd,” meddai wrth iddo gyrraedd yr uwchgynhadledd.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl cam ymlaen neithiwr.

“Credaf fod y ffaith eu bod wedi cyfarfod am gyfnod eithaf hir a bod cyfnewid barn yn onest ynddo’i hun yn beth da.”

Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi diystyru’r posibilrwydd y bydd trafodaethau’n parhau y tu hwnt i ddydd Sul (Rhagfyr 13).

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab ei bod yn “annhebygol” y bydd trafodaethau’n parhau ar ôl y dyddiad cau hwnnw, “ond alla i ddim ei eithrio’n bendant”.

Dywedodd Penny Mordaunt, gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, y bydd y Deyrnas Unedig yn “parhau i drafod” tan y foment olaf.

Gwerth y bunt yn gostwng

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi awgrymu y gallai canlyniad dim cytundeb ddileu 2% oddi ar gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP), mesur o faint yr economi, yn 2021 – y mae arbenigwyr wedi nodi y gallai hynny fod yn gyfweth â £45 biliwn.

Roedd y bunt yn llithro i lefel isel yn erbyn y ddoler fore Iau (Rhagfyr 10) ar ôl i’r trafodaethau rhwng Boris Johnson a Mrs von der Leyen fethu â chynhyrchu cam ymlaen pendant.

Erbyn 9.30yb roedd y bunt i lawr 0.8% yn erbyn y ddoler a 0.97% yn erbyn yr ewro.