Ni allai’r un prif weinidog dderbyn y gofynion y mae’r Undeb Ewropeaidd yn eu gwneud ar hyn o bryd fel y pris am gytundeb fasnach, meddai Boris Johnson.

Bydd y Prif Weinidog yn hedfan i Frwsel i gael cinio gyda llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen gyda’r trafodaethau mewn argyfwng ac amser yn dod i ben.

Mae amser yn brin i ddod i gytundeb masnach cyn i’r trefniadau presennol ddod i ben ddiwedd y mis ond mynnodd Boris Johnson fod bargen yn “dal yn bosibl.”

Mae’r trafodaethau hirfaith ar gytundeb fasnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi methu ar faterion hawliau pysgota, y mesurau ‘chwarae teg’ sydd â’r nod o atal y Deyrnas Unedig rhag mynd yn groes i’r Undeb Ewropeaidd o ran cymorthdaliadau’r wladwriaeth, a’r ffordd y byddai unrhyw gytundeb yn cael ei llywodraethu.

Dywedodd Boris Johnson: “Mae ein ffrindiau yn yr Undeb Ewropeaidd yn mynnu ar hyn o bryd os ydyn nhw’n pasio cyfraith newydd yn y dyfodol nad ydyn ni yn y wlad hon yn cydymffurfio â hi neu ddim yn dilyn eu hesiampl, yna maen nhw eisiau’r hawl awtomatig i’n cosbi ac i ddial.

“Yn ail, maen nhw’n dweud mai’r Deyrnas Unedig ddylai fod yr unig wlad yn y byd i beidio â chael rheolaeth sofran dros ei dyfroedd pysgota.

“Dydw i ddim yn credu bod y rheini’n dermau y dylai unrhyw un o brif weinidogion y wlad hon eu derbyn.”

Mynnodd unwaith eto y byddai’r Deyrnas Unedig yn “ffynnu” gyda neu heb gytundeb – hawliad sydd wedi cael ei anghytuno gan arbenigwyr economaidd gan gynnwys y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a llywodraethwr Banc Lloegr.

Byddai methu â dod i gytundeb yn gweld tariffau’n cael eu gosod ar allforion y Deyrnas Unedig i’r Undeb Ewropeaidd, partner masnachu mwyaf y wlad, a gallai hefyd gynyddu biwrocratiaeth.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi awgrymu y gallai canlyniad dim bargen ddileu 2% oddi ar gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP), mesur o faint yr economi, yn 2021.

Mae llywodraethwr y Banc, Andrew Bailey, wedi rhybuddio y byddai’r difrod hirdymor a achoswyd gan sefyllfa heb gytundeb yn waeth na’r ergyd economaidd o bandemig coronafeirws.

Dywedodd ysgrifennydd y wasg Boris Johnson, Allegra Stratton, wrth ohebwyr: “Mae’r Prif Weinidog yn mynd i fod yn glir heno na all dderbyn unrhyw beth sy’n tanseilio ein gallu i reoli ein cyfreithiau neu reoli ein dyfroedd.

“Mae’n mynd i roi hynny’n glir i Ursula von der Leyen a gweld beth yw ei hymateb.”

Ni siaradodd y Prif Weinidog â gohebwyr wrth iddo adael Downing Street i fynd i brifddinas Gwlad Belg.

Mae disgwyl iddo gyrraedd ar gyfer y swper am 7yh amser y Deyrnas Unedig, gyda’r negodwyr yr Arglwydd Frost a Michel Barnier hefyd yn mynychu’r digwyddiad.

Awgrymodd Gweinidog y Cabinet, Michael Gove, y gallai fod cyfaddawd cyfyngedig dros hawliau pysgota, gyda’r Deyrnas Unedig yn barod i fod yn “hael iawn” yn y ffordd y mae newidiadau’n cael eu cyflwyno fesul cam.

Ond dywedodd wrth Today ar BBC Radio 4: “Yr hyn nad yw’n fater i gyfaddawdu yw’r egwyddor y bydd y Deyrnas Unedig yn wladwriaeth arfordirol annibynnol a bydd yn fater i’w drafod rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, gyda’r Deyrnas Unedig yn rheoli ein dyfroedd.”

Pwysleisiodd canghellor yr Almaen Angela Merkel bwysigrwydd y “maes chwarae gwastad” i ddiogelu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd – y rheolau sy’n llywodraethu masnach yn y bloc.

Dywedodd wrth y senedd ym Merlin: “Mae’n rhaid i ni gael chwarae teg nid yn unig ar gyfer heddiw, ond mae’n rhaid i ni gael un ar gyfer yfory neu’r diwrnod wedyn, ac i wneud hyn mae’n rhaid i ni gael cytundebau ar sut y gall rhywun ymateb os yw’r llall yn newid eu sefyllfa gyfreithiol.

“Fel arall, bydd amodau cystadleuol annheg na allwn eu gofyn i’n cwmnïau.”