Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi colli eto wrth i Dŷ’r Arglwyddi barhau â’r ffrae ddeddfwriaethol gyda Thŷ’r Cyffredin dros Fil y Farchnad Fewnol.
Er bod Aelodau Seneddol wedi gwrthod cyfres o newidiadau a wnaed gan y siambr uchaf, mae’r Arglwyddi wedi pwyso arnynt i ailfeddwl.
Pleidleisiodd yr Arglwyddi o 320 i 215, mwyafrif 105, o blaid gwelliant i alw o’r newydd ar y Llywodraeth i roi rôl allweddol i’r gweinyddiaethau datganoledig o ran cydlynu’r farchnad fewnol drwy’r hyn a elwir yn fframweithiau cyffredin.
Yna, yn nes ymlaen, trechwyd y Llywodraeth eto wrth i Arglwyddi gefnogi gwelliant – o 305 i 236, mwyafrif 69, y tro hwn – a fyddai’n gwneud caniatâd y llywodraethau datganoledig yn ofynnol ar gyfer gwariant datblygu economaidd yn y dyfodol, hynny yw y cyllid a fydd yn disodli cymorth yr Undeb Ewropeaidd.
Hefyd, dioddefodd y Llywodraeth golled arall eto – o 313 pleidlais i 236, mwyafrif 77 – wrth i Arglwyddi gefnogi mesur gyda’r nod o roi rôl ganolog i’r llywodraethau datganoledig wrth lunio’r gyfundrefn cymorth gwladwriaethol newydd, mater oedd yn flaenorol wedi’i gwmpasu gan reolau’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Senedd Cymru eisoes wedi gwrthod rhoi cydsyniad i Fil y Farchnad Fewnol.
Canoli pwer
Wrth drafod y farchnad fewnol a’r fframweithiau cyffredin, dywedodd yr Arglwydd Hope o Craighead, aelod annibynnol o’r meinciau cefn: “Rydym am i hyn fod yn farchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig.”
“Mae hynny’n golygu bod angen iddi weddu i anghenion a dyheadau pob rhan o’r Deyrnas Unedig, a all amrywio’n fawr o un rhan i’r llall.”
Ychwanegodd: “Nid yw’n ymwneud â chreu rhwystrau. Mae’n ymwneud â chaniatáu ymwahanu polisi mewn ffyrdd y ceir cytundeb eu bod yn gyson â’r farchnad fewnol.”
Ond rhybuddiodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, yr Arglwydd True, fod “anfanteision sylweddol” i’r ymgais newydd i ddiwygio’r Bil, a allai greu ansicrwydd busnes.
Dywedodd y farwnes Hayter, aelod o feinciau blaen Llafur: “Roeddem yn credu y byddai’r Bil hwn yn parchu realiti datganoli tra’n helpu i sicrhau bod marchnad y Deyrnas Unedig yn ffynnu er lles busnes, defnyddwyr, gweithwyr, ein byd amaeth a’r amgylchedd.”
Ond, yn hytrach, dywedodd fod y Llywodraeth wedi mynd ati i roi rheolau yn y ddeddfwriaeth a oedd yn “sathru ar, yn hytrach nac atgyfnerthu, y rhaglen fframweithiau cyffredin”; rhaglen, meddai, sydd wedi’i “hadeiladu ar gonsensws yn hytrach na gorchymyn o’r top i lawr”.
“Mae’r gwelliannau’n adeiladu ar y setliadau datganoli – a byddent yn cefnogi ac yn cryfhau’r Undeb yn ogystal â chreu’r hyn yr ydym i gyd ei eisiau, sef marchnad sy’n tyfu’n llwyddiannus, sydd er budd ein holl ddinasyddion,” meddai.
Grymoedd gwario
O ran y grymoedd gwario mewn meysydd datganoledig, dywedodd y Farwnes Penn, aelod o feinciau blaen y Torïaid:
“Mae hwn yn ddull gwahanol o ymdrin â’r gwledydd datganoledig. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw disodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd â chronfa strategol ar gyfer y DU gyfan.
“Nid yw’n ymwneud â disodli cyfrifoldebau gweinyddiaethau datganoledig. Mae’n eu hategu â dull strategol a benderfynnir ar lefel y DU.”
Wfftio hyn wnaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, sy’n aelod annibynnol.
Mae’r Llywodraeth yn ceisio mynd â’r DU “yn ôl i ddyddiau San Steffan sy’n gwybod orau,” meddai.
“Byddai’n dweud i bob pwrpas nad ydym yn ymddiried ym mhobl Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i ethol llywodraethau i wario’n ddoeth yn y meysydd datganoledig.”
Ychwanegodd: “Byddai’r cymal, heb y gwelliant rwy’n ceisio ei gynnig, yn galluogi Llywodraeth y DU i wario mewn meysydd datganoledig ac osgoi’r llywodraethau a’r seneddau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd wedi cael eu hethol i fod yn gyfrifol am y meysydd hynny.
“Mae i bob pwrpas yn dileu’r setliadau datganoli.”