Dylai fod gan Lywodraeth Cymru swyddog amlwg sy’n cynrychioli cydraddoldeb hil, boed yn gomisiynydd, yn weinidog, neu’n hyrwyddwr.

Dyna farn Shavanah Taj, Is-gadeirydd grŵp sydd yn cynghori Prif Weinidog Cymru ar covid a’i effaith economaidd ar bobol BAME (Pobol Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig).