Fel rheol mae prisiau crancod a chimychiaid Pen Llŷn ar eu huchaf rhwng nawr a’r flwyddyn newydd, ond oherwydd y cyfyngiadau Covid diweddaraf mae’r farchnad wedi crebachu wrth i fwytai a thafarnau fethu â gweini alcohol a gorfod cau amser te.

Mae Sion Williams yn pysgota allan o gilfach Porth Colmon sy’n edrych allan dros Fôr Iwerddon, a hefyd yn un o weithredwyr Cymdeithas Bysgota Cymru ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Cawellwyr Llŷn.