Mae’r cyn-brif weinidog Gordon Brown a chriw o feiri rhanbarthol Lloegr wedi ysgrifennu at Boris Johnson i’w annog i “achub” yr Undeb drwy roi mwy o bwerau i’w genhedloedd.
Mae’r gwleidyddion wedi rhybuddio’r Prif Weinidog bod “amser yn prysur redeg allan” i gadw’r Deyrnas Unedig yn gyfan a dadlau mai’r ffordd i’w diogelu oedd creu Prydain fwy ffederal.
Dywedodd Gordon Brown y dylai’r llythyr, a gydlynwyd gan faer Sheffield Dan Jarvis ac a gefnogir gan Andy Burnham o Fanceinion Fwyaf a Steve Rotheram o Lerpwl, fod yn “alwad i ni i gyd ddeffro “.
Yn y llythyr, dywedodd y gwleidyddion: “Mae’r Deyrnas Unedig mewn perygl mawr.
“Mae polau diweddar yn dangos tuedd glir fod yr Albanwyr yn colli ffydd yn yr Undeb ac mae mwyafrif o Brydeinwyr yn credu bod y Deyrnas Unedig yn mynd i gael ei chwalu.
“Credwn y dylai’r nod fod yn Brydain fwy ffederal o genhedloedd a rhanbarthau, partneriaeth rydd a chyfartal gyda datganoli cryfach yn dod â phŵer yn nes at y bobol, yn enwedig yn Lloegr.
“Mae gennym gyfle nid yn unig i gadw ein Hundeb, ond i greu Prydain fwy cytûn, unedig a democrataidd i ni i gyd.
“Mae amser yn prysur ddod i ben. Gallwn barhau i achub ein gwlad ond mae angen i ni weithredu nawr.”
Dywedodd Gordon Brown: “Mae’r ymyriad hwn yn dangos bod yr awydd am newid a diwygio yn tyfu ar draws y Deyrnas Unedig. Mae momentwm a diddordeb i adeiladu dewis amgen i’r status quo.
“Mae’r llythyr hwn wedi’i fwriadu fel galwad i ni i gyd ddeffro. Mae’n alwad am sgwrs genedlaethol.
“Mae’n alwad, yn hytrach na thorri ein gwlad ar wahân, i ni geisio datrys ein gwahaniaethau.”