Mae gofalwyr yng Nghymru yn teimlo fel eu bod wedi’u “gadael ar ôl” a’u bod wedi’u hanwybyddu’n llwyr, yn ôl ffigwr o’r maes.

Mae Claire Morgan, yn Gyfarwyddwr ar sefydliad Gofalwyr Cymru, ac mi rodd ddarlun llwm o’r sefyllfa gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw.

Yn ôl gwaith y corff mae rhyw un o bob pum person yng Nghymru bellach yn gofalu am rywun arall, ac yn ôl y Cyfarwyddwr mae’r cyfrifoldeb hwnnw wedi bod yn go heriol yn ystod yr argyfwng.

“Dw i’n credu ei bod hi’n deg dweud bod gofalwyr yn adrodd bod eu hiechyd yn llawer gwaeth nag oedd e’ cyn y pandemig oherwydd cyfrifoldebau gofalu,” meddai.

“Ac mae hynny’n wir o ran iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Daw hyn yn sgil yr heriau lu y maen nhw’n eu hwynebu ar hyn o bryd.

“Dw i’n credu unigrwydd a theimladau o fod wedi’ch ynysu wedi bod yn bethau mawr yn ystod y pandemig,” meddai wedyn.

“Mae llawer o ofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo fel eu bod wedi’u hynysu – yn methu gweld ffrindiau a theulu. Ac maen nhw’n teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl.

“Maen nhw’n teimlo fel eu bod wedi’u hanwybyddu’n llwyr a bod disgwyl iddyn nhw jest fwrw ati â phethau. Mae hynna’n rhoi lefel aruthrol o straen ar ofalwyr.”

Ystadegau

Mae ymchwil Gofalwyr Cymru yn dangos bod:

  • nifer y gofalwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 400,000 i 680,000 yn ystod yr argyfwng
    • Mae’n debyg bod cyfyngiadau teithio ac ar wasanaethau wedi cyfrannu at y twf yma
  • 80% yn darparu mwy o ofal nag oedden nhw ar ddechrau’r pandemig
  • 76% yn teimlo bod y person maen nhw’n gofalu amdano angen rhagor o gymorth
  • 76% yn adrodd eu bod yn ddiegni ac angen saib o’i gwaith gofalu
  • dros hanner yn teimlo mwy o straen nag oedden nhw cyn y pandemig
  • dros chwarter yn cael trafferth rhoi dau ben llinyn ynghyd yn ariannol oherwydd pwysau ychwanegol yr argyfwng
  • 60% heb gael saib ers dechrau’r pandemig

Diffyg cydnabyddiaeth

Dywedodd bod diffyg PPE wedi peri gofid i bobol tua dechrau’r argyfwng, gyda gofalwyr yn gorfod gofalu am eraill heb yr offer diogelwch priodol.

Hefyd tua dechrau’r argyfwng roedd gofalwyr nad yw’n cael eu talu yn ei chael hi’n “hynod o anodd” cael gafael ar fwyd a meddyginiaeth, meddai.

Roedd gweithio o adref (neu dŷ’r person sy’n derbyn gofal) yn her i rai gofalwyr, meddai, ond i eraill mi wnaeth y jobyn o ofalu yn haws.

Ers dechrau’r pandemig mae’n debyg bod gwaith gofal (heb ei dalu) wedi bod yn gyfwerth â £33m y dydd – hynny yw, byddai’r GIG wedi gorfod talu gymaint â hynny’n rhagor pe bai’n gyfrifol.

“Does dim digon o gydnabyddiaeth wedi bod o ofalwyr nad yw’n cael eu talu a’i rôl yn drydedd rhan i’r sustem iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru,” meddai.

“Bydd gofalwyr nad yw’n cael eu talu yn dod yn fwyfwy allweddol wrth gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol,” meddai wedyn.