Mae’r Senedd wedi pleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad i ‘Bil y Farchnad Fewnol’.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau bod angen pasio’r mesur er mwyn sicrhau masnach lefn oddi fewn i’r Deyrnas Unedig pan fydd rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.
Ond mae gweinidogion yng Nghymru a’r Alban, a sawl llais blaenllaw yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn gofidio mai ymgais yw hyn i gipio pwerau’r oddi wrthynt, ac mae yna wrthwynebiad mawr tuag ato.
Pleidleisiodd 15 o blaid rhoi cydsyniad i’r Bil, 36 yn erbyn, a doedd neb wedi atal eu pleidlais.
Mae Senedd yr Alban eisoes wedi gwrthod rhoi cydsyniad, ac mae Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi pleidleisio yn ei erbyn.
Mae’r bêl bellach yng nghwrt Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mi fydd yn rhaid iddyn nhw ddewis naill ai gwrando ar y llywodraethau neu bwrw ati â’r Bil ta beth.
Ymgais i “ddryllio”
Bu Aelodau o’r Senedd yn trafod y mater brynhawn heddiw ac roedd y siambr yn byrlymu ag angerdd.
Roedd sesiwn heddiw yn barhad o sesiwn a dechreuwyd brynhawn ddoe. Dim ond llond llaw oedd yno yn y cnawd gyda’r gweddill yn cymryd rhan yn rhithwir.
Darren Millar, cynrychiolydd Ceidwadol Gorllewin Clwyd, oedd yr AoS cyntaf i adlewyrchu safiad ei blaid ac mi wrthododd y ddadl mai ymgais yw hyn i sathru ar bwerau’r Senedd.
“Mae Llafur, Plaid Cymru, ac eraill yn y siambr hon wedi gwneud popeth y gallan nhw i drïo rhwystro’r Deyrnas Unedig rhag delifro mandad democrataidd pobol Cymru,” meddai.
“Yn gyntaf, fe wnaethon nhw drïo ein stopio rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yna, fe wnaethon nhw drïo ymestyn y cyfnod pontio. A heddiw maen nhw’n trïo dryllio Bil y Farchnad Fewnol.”
Dywedodd hefyd bod gwrthwynebiad Gweinidogion Cymru yn “bisâr”, gan ddadlau y bydd y drefn newydd yn fwy buddiol i’r wlad hon.
“Maen nhw’n gwrthwynebu Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn derbyn y fath bwerau, ond maen nhw’n fwy na hapus â’r syniad bod y pwerau yn nwylo biwrocratiaid anweledig anetholedig Brwsel.”
Ceidwadwr yn gwrthwynebu
Yn ei gyfraniad yntau dywedodd David Melding, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, bod y Bil “wedi cael ei ruthro” a bod “dim lawer o feddwl y tu ôl iddo”.
Roedd Llywodraeth San Steffan wedi cydnabod y byddai’r mesur yn torri cyfraith ryngwladol pe bai’n dod yn ddeddf ac mae’r AoS wedi dweud ei fod yn “wrthun” yn hynny o beth – serch hynny, mae’r darpariaethau hynny wedi’u dileu bellach.
Dywedodd bod y Bil yn bygwth gwneud hi’n “anoddach” i lywodraethau datganoledig “gweithredu eu pŵer”. Er hyn i gyd nid oedd yn llwyr gytûn â gwrthwynebwyr eraill y Bil.
“Dw i’n credu bod hyn wedi ei rhuthro mewn ffordd letchwith, ond dw i ddim yn credu mai ymgais maleisus yw hyn i danseilio egwyddorion datganoli,” meddai.
Crybwyll Tryweryn
Cyfeiriodd Dai Lloyd at y gorffennol wrth amlinellu rhesymau Plaid Cymru tros wrthwynebu’r Bil.
Cymharodd y Bil ag esiamplau hanesyddol o ormes tuag at y Cymry, ac mi geryddodd y Blaid Lafur am eu safiad unoliaethol.
“Mae gan Lafur obsesiwn â’r Deyrnas Unedig yma sy’n llai a llai unedig pob dydd,” meddai.
“Mae hynny er niwed i Gymru.
“Maen nhw’n rhefru at yr anghyfiawnderau ond maen nhw wedi cyfrannu at hyn. Dros wyth ganrif mae brenhinoedd Lloegr ac elit San Steffan wedi gormesu neu esgeuluso pobol Cymru – neu’r ddau!
“Mae pobol yn aml yn gwneud hwyl am fy mhen pan dw i’n siarad am hanes Cymru.
“Ond does dim angen i ni gofio nôl at Llywelyn ein Llyw Olaf, Brad y Llyfrau Gleision, boddi Tryweryn, neu unrhyw frad hanesyddol arall. A hynny gan fod dilyw o esiamplau modern.”
Cadw’r undeb ar ei thraed
Pan ddaeth tro Caroline Jones, o Blaid Brexit gynt ac UKIP cyn hynny, i siarad eglurodd y bydd ei grŵp hithau ‘Y Gynghrair Annibynnol tros Ddiwygio’ yn pleidleisio o blaid rhoi cydsyniad.
“Rydym ni’n anghytuno gyda’r casgliad bod Bil y Farchnad Fewnol yn tanseilio datganoli – syniad mae sawl un yn ei arddel,” meddai
“Buaswn i’n dadlau’r gwrthwyneb. Heb ddull synhwyrol o fasnachu nwyddau a gwasanaethau rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig mi allwn brofi chwâl o ran symudiad rhydd nwyddau.
“Gall hynny yn ei dro arwain at y Deyrnas Unedig yn cael ei chwalu.”
Dywedodd bod angen i Gymru “ddibynnu” ar weddill yr undeb am y tro, ond derbyniodd bod isadeiledd y wlad yn sâl oherwydd llywodraethau Llafur a’r Torïaid yn San Steffan.
Cyflawni Brexit
Brexit, yn amlwg, oedd prif ffocws cyfraniad Neil Hamilton, yr unig un o’r saith AoS a etholwyd i gynrychioli UKIP sydd dal yn y blaid honno.
Rhannodd ei siom bod y ‘cytundeb ymadael’ rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd heb gyflawni ymadawiad llawn.
A dywedodd bod ‘Bil y Farchnad Fewnol’ yn “gynhwysyn allweddol” er y diben hynny.
“Mae gwrthwynebwyr y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn anwybyddu’r realiti sylfaenol ynghylch pam yr ydym yn cynnal dadl ar hyn heddiw.
“Pedair blynedd a hanner yn ôl wnaeth pobol y Deyrnas Unedig a phobol Cymru bleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Roedd gennym etholiad cyffredinol fis Medi diwetha’ lle wnaeth y Ceidwadwyr sefyll â’r slogan o gyflawni Brexit. Ac wrth gwrs cafodd y blaid ei hethol â mwyafrif o 80 yn Nhŷ’r Cyffredin.”
“Bydd datganoli yn farw”
Bu Alun Davies yn adlewyrchu safiad y Blaid Lafur – sef gwrthwynebiad i’r Bil – ac roedd gweiddi mawr yn y siambr tra roedd yntau’n areithio ag angerdd.
“Gorfodaeth pŵer gwleidyddol er mwyn tanseilio democratiaeth Gymreig – dyna sydd wrth wraidd y Bil yma,” meddai. “Dyna mae’r Bil yn ceisio gwireddu. Ac mae hyn yn sylfaenol i ni.
“Ac mi ddyweda’ i hyn. Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn amddiffyn breintiau’r senedd yma, na waeth lle yr ydym yn eistedd yn y siambr yma ac i amddiffyn y pethau rheiny mae pobol Cymru wedi pleidleisio drostyn nhw.
“Mae pobol Cymru wedi pleidleisio fel bod y Senedd yma yn meddu ar y pwerau yma. Mae’r pwerau yma yn cael eu cipio oddi wrth y Senedd yma heb gydsyniad y Senedd yma.
“Ac mi ddyweda’ i hyn i fy mainc flaen. Bydd datganoli yn farw os ddeith y Bil yma yn ddeddf.”