Mae gwefan a systemau technoleg gwybodaeth Comisiynydd y Gymraeg wedi’i hacio mewn “ymosodiad syber”.

Ers bore dydd Iau, Rhagfyr 10, does dim modd cael mynediad i wefan y Comisiynydd – y corff sy’n dwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg, ac sy’n gosod safonau ar ddefnydd y Gymraeg gan sefydliadau yng Nghymru.

Mae golwg360 ar ddeall fod y system gyfrifiadurol wedi i dargedu gan feddalwedd maleisus sy’n mynnu bod ffi yn cael ei thalu er mwyn i’r system weithio eto.

Nid yw manylion yr ymosodiad wedi ei datgelu – fodd bynnag credir bod yr hacwyr wedi cael gwybodaeth bersonol a’i amgryptio.

Dim ond drwy wefannau cymdeithasol y mae modd cysylltu â’r Comisiynydd, yn hytrach na’r dulliau arferol, ac mae’r broblem yn debygol o barhau am beth amser.

‘Ymosodiad syber’

“Gallwn gadarnhau fod systemau TG Comisiynydd y Gymraeg wedi cael ymosodiad syber,” meddai llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth golwg360.

“Rydym yn cydweithio gyda chyrff perthnasol i ymchwilio a delio gyda’r sefyllfa. 

“Yn y cyfamser, byddem yn annog unrhyw un sydd eisiau cysylltu gyda ni i wneud hynny drwy Facebook neu Twitter gan fod ein holl systemau technegol wedi eu heffeithio.

Fydd gan y Comisiynydd ddim sylw pellach i’r uchod i’w wneud ar y mater.”

Yn neges sydd i’w weld ar wefan Comisiynydd y Gymraeg