Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yng Nghymru yn symud at ddosbarthiadau ar-lein o ddydd Llun ymlaen.
Dywedodd y Gweinidog fod y penderfyniad yn rhan o “ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad y coronafeirws” ac yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn “dirywio”.
Mae hefyd yn dilyn galwad am weithredu gan undebau athrawon.
Er bod y Gweinidog yn mynnu bod ysgolion a cholegau yn fannau diogel – gyda bron i hanner holl ysgolion Cymru heb gael unrhyw achosion o covid ers mis Medi – mae’n cydnabod y gallai’r ffaith fod lleoliadau addysg ar agor gyfrannu at gymysgu ehangach y tu allan i’r ysgol a’r coleg.
Fel y digwyddodd yn ystod y clo dros dro, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried pa ddarpariaeth fyddai’n briodol i ddysgwyr agored i niwed – a gallai hynny gynnwys dysgu ar y safle.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Bob dydd, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda symptomau’r coronafeirws.
“Mae’r feirws yn rhoi pwysau sylweddol a pharhaus ar ein gwasanaeth iechyd ac mae’n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan i osgoi ei drosglwyddo.
“Yn ei gyngor i mi heddiw, mae’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
“Gallaf gadarnhau felly y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr coleg o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen.
Ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig i barhau ar agor
“Rydym yn cydnabod, fel y gwnaethom yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod yn anos i blant oedran cynradd ac ysgolion arbennig ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig,” meddai’r Gweinidog.
“Dyna pam rydyn ni’n annog ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig i barhau i aros ar agor.
“Ar ôl siarad ag arweinwyr addysg lleol, rwy’n hyderus bod gan ysgolion a cholegau ddarpariaeth ddysgu ar-lein ar waith.
“Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod myfyrwyr gartref yn ystod y cyfnod hwn, gan ddysgu ac aros yn ddiogel.
“Yn bendant, ac mae hyn yn bwysig iawn, dylai plant fod gartref.
“Nid gwyliau Nadolig cynnar yw hyn – gwnewch bopeth o fewn eich gallu i leihau eich cysylltiad ag eraill.”
“Mae’r teulu addysg yng Nghymru wedi tynnu ynghyd gymaint o weithiau eleni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwrs y feirws hwn ac yn y pen draw i achub bywydau, ac rwy’n gwybod y gallwn wneud yr un peth eto.
“Gyda’n gilydd gallwn ddiogelu Cymru.”
‘Rhaid mynd i’r afael â’r rhaniad digidol’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, tynnodd Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AoS, sylw at yr hyn y mae’n galw’n ‘raniad digidol’:
“Mae’n hanfodol bwysig nad oes unrhyw blentyn yn mynd adref o’r ysgol nos Wener wedi’i allgau yn ddigidol,” meddai.
“Mae hyn yn golygu bod angen dyfais addas ar bob plentyn ysgol uwchradd ar gyfer cael mynediad i’w ddysgu ar-lein yn barod ar gyfer bore Llun.
“Nid yw cael mynediad at addysg drwy Xboxes a ffonau symudol yn ddigon da. Rhaid defnyddio’r amser hwn i gael gafael ar faint y ‘rhaniad digidol’.
“Dydyn ni ddim yn gwybod beth ddaw ym mis Ionawr, a dyna pam ei bod mor bwysig i Lywodraeth Cymru weithredu nawr, neu fel arall maen nhw’n wynebu’r risg y bydd y flwyddyn newydd yn datgelu faint o blant sydd wedi cael eu gadael ar ôl.”
Hefyd galwodd am ddarpariaeth dysgu ar y safle i blant gweithwyr allweddol:
“Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd geisio darparu darpariaeth ar y safle ar gyfer pob dysgwr iau, a phlant gweithwyr allweddol nad ydynt yn gallu gwneud trefniadau amgen,” meddai.