Mae Gweinidog Pontio Ewropeaidd Cymru wedi galw ar i Lywodraeth San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd “ddwysáu eu hymdrechion” a tharo dêl Brexit.

Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd y trafodaethau yn dod i ben ar dydd Sul, a bod pethau ddim yn argoeli’n dda (o ran taro dêl).

Yn siarad gerbron un o bwyllgorau’r Senedd brynhawn heddiw mi wnaeth Jeremy Miles rhannu ei rwystredigaeth yntau â’r sefyllfa.

“Mae’n echrydus o wael ein bod ni llai na mis i ffwrdd o ddiwedd y cyfnod pontio a dydyn ni methu disgrifio sut fydd dyfodol ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Methiant strategaeth y trafod – dyna’r unig reswm ein bod ni yn y sefyllfa yma. Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ddwysáu eu hymdrechion.

“Dyna sy’n rhaid digwydd yn awr dw i’n credu. Rhaid iddyn nhw fod mor hyblyg ag sy’n bosib a sicrhau dêl o fewn y dyddiau nesa’.

“Os nad yw hynny’n digwydd bydd y difrod a’r aflonyddwch – y bydd Cymru a gweddill y DU yn ei wynebu – yn sylweddol. Ac os dyna fydd yn digwydd, wel, dewis gwleidyddol fydd hynny.”

Pwysleisiodd mai “rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw sicrhau lles pobol yn y Deyrnas Unedig ac felly dw i’n edrych atyn nhw’n benodol gyda’r disgwyliad o delifro’r ddêl orau posib.”

Brexit – lle y’n ni arni?

Mi wnaeth y Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 31 2020, ond penderfynodd y ddwy ochr bod angen 11 mis yn rhagor i drafod trefniadau masnach y dyfodol.

Y cyfnod pontio yw enw’r cyfnod yma, ac mae gan arweinwyr tan Ragfyr 31 2020 i daro dêl masnach – yn ogystal ag ambell beth megis hawliau pysgota.

Os na fydd dêl bydd trethi yn cael eu rhoi ar nwyddau sydd yn teithio rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Hefyd mi fydd gwiriadau nwyddau ar y ffiniau (border checks).

Yn siarad heddiw mae un o brif swyddogion yr Undeb Ewropeaidd wedi rhannu eu hamheuaeth ynghylch gallu’r ddwy ochr i ddod i gytundeb.