Mae sawl un wedi’u drysu gan benderfyniad Dafydd Elis-Thomas i bleidleisio o blaid rhoi cydsyniad i Bil y Farchnad Fewnol.

Brynhawn ddoe mi bleidleisiodd mwyafrif o’r Senedd dros wrthod rhoi cydsyniad i’r mesur – gyda 15 o blaid rhoi cydsyniad a 36 yn erbyn.

Ac er mawr syndod i rai, mi oedd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (ac AoS Dwyfor Meirionydd) ymhlith y rheiny a bleidleisiodd o blaid.

Yn yr un garfan ag ef oedd sawl un o AoSau y Ceidwadwyr, Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, ac aelodau Plaid Diddymu’r Cynulliad.

Rhianon Passmore oedd yr unig Aelod Llafur a bleidleisiodd o blaid.

Wele restr gyfan o sut bleidleisiodd pob AoS yma.

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi pleidleisio o blaid “ar ddamwain”.

Beth yw’r Bil?

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau bod angen pasio’r mesur er mwyn sicrhau masnach lefn oddi fewn i’r Deyrnas Unedig pan fydd rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.

Ond mae gweinidogion yng Nghymru a’r Alban, a sawl llais blaenllaw yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn mynnu mai ymgais yw hyn i gipio pwerau’r oddi wrthynt, ac mae yna wrthwynebiad mawr tuag ato.

Darllen Mwy