Mae prifathrawon yng Nghymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yng Nghymru’n symud ar-lein o ddydd Llun (Rhagfyr 14) ymlaen.
Mae Guto Wyn, Prifathro Ysgol Glan-y-Môr ym Mhwllheli, wedi dweud ei fod yn gwerthfawrogi arweiniad “pendant” Llywodraeth Cymru i ddiogelu iechyd a lles disgyblion a staff dros y Nadolig.
Ac er bod Dewi Lake, Prifathro Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog yn “deall ac yn parchu” y cyhoeddiad, dywedodd bod newidiadau byr rybudd o’r fath yn creu “pwysau ac ansicrwydd ychwanegol” i athrawon, disgyblion a rhieni.
“Braf cael arweiniad pendant gan y Llywodraeth”
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Guto Wyn, Prifathro Ysgol Glan-y-Môr:
“Rydw i’n falch bod ‘na benderfyniad wedi ei gymryd a’i rannu achos mae ‘na ryw deimlad fod yna lot o drafod yn y wasg, lot o sïon, lot o bawb a’i farn – felly mae’n braf cael arweiniad pendant gan y Llywodraeth.
“Heb arweiniad pendant – ‘da ni’n ryw le ble mae’n anodd derbyn a gwybod sut ‘da ni fod i weithredu.
Dywedodd bod y penderfyniad yn darparu elfen o sicrwydd i deuluoedd, wrth i’r Nadolig agosáu.
“Dwi’n meddwl bod gan bawb lefel o ansicrwydd bod cyfraddau’r haint yn codi a bod pawb isio bod yn ddiogel hefo’i teuluoedd dros y Nadolig.
“Gobeithio bydd cam fel hyn yn diogelu disgyblion ysgol a staff ysgolion i allu bod hefo’i teuluoedd dros y Nadolig.”
“Deall ac yn parchu”
Er bod Dewi Lake, prifathro Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog yn cytuno gyda’r penderfyniad, dywedodd bod angen blaengynllunio gwell er mwyn lleihau’r pwysau mae penderfyniadau funud olaf yn ei roi ar athrawon.
“Rwyf yn deall ac yn parchu’r angen i gau ysgolion fel rhan o drefn delio hefo heriau Covid ac yn hollol gefnogol i hynny. Mae’n hollbwysig ein bod yn cydweithio i fynd i’r afael hefo’r her hon.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn trefnu newidiadau o’r fath yn drefnus gan roi rhybudd digonol i ysgolion a phenaethiaid gan ganiatáu amser rhesymol i gynllunio ac addasu.
“Creu pwysau ac ansicrwydd ychwanegol”
Eglurodd bod athrawon a disgyblion eisoes yn gweithio mewn cyd-destun o ansicrwydd yn sgil asesiadau’r haf.
“Yn achos y Moelwyn,” meddai, “mae ffug arholiadau ac asesiadau dan reolaeth wedi eu trefnu a’u rhaglennu ar gyfer yr wythnos nesaf, wythnos olaf y tymor, a byddai eu gohirio ar ôl gwaith paratoi manwl yn creu pwysau ac ansicrwydd ychwanegol i staff a dysgwyr.
“Mae’r pwysau hwn eisoes yn amlwg yn sgil y newidiadau i fanylebau asesu TGAU a’r addasiadau pellach ddechrau Rhagfyr i drefniadau asesu tasgau di-arholiad.
“Ar yr un pryd, rydym yn parhau i ddisgwyl am gadarnhad o’r model asesu terfynol ar gyfer haf 2021. Mae hyn oll yn creu cawdel o ansicrwydd i ddysgwyr, rhieni ac athrawon.
“Mae diwedd tymor y Nadolig yn aml yn gyfnod o ethos cymunedol arbennig mewn ysgol ac mae cynnal yr ethos hwnnw eleni yn bwysicach nag erioed.
“Fydd ffarwelio ar fyr rybudd hefo dysgwyr ddim yn gwneud cymwynas hefo neb o ran ein rôl yn cynnal a chefnogi dysgwyr o bob math.”
“Fysa nhw wedi gallu cyhoeddi hyn yn gynt.”
Mae Dylan Davies, Prifathro Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda, yn cytuno bod y cyhoeddiad yn darparu rhywfaint o dawelwch meddwl:
“Yn amlwg, mae o’n braf i ddisgyblion, teuluoedd a staff gael sicrwydd bod ’na lai o risg iddyn nhw ddal y feirws rhwng rŵan a’r Nadolig ac yn gorfod hunan ynysu dros yr Ŵyl,” meddai.
“Ond wedi dweud hynny, mae’r cyfraddau yn y rhan yma o Gymru yn isel o’i gymharu â sawl ardal arall
“Mae hi’n bechod bod y cyhoeddiad wedi dod mor hwyr â hyn – dydi’r sefyllfa ddim wedi newid dros nos – a does ‘na ddim llawer yn wahanol heddiw o’i gymharu â dechrau’r wythnos.
“Fysa nhw wedi gallu cyhoeddi hyn yn gynt.”