Mae undebau addysg wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg y bydd pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yng Nghymru yn symud at ddosbarthiadau ar-lein o ddydd Llun ymlaen.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Undebau addysg rybuddio y gallai achosion o’r coronafeirws mewn ysgolion olygu y byddai yn rhaid i ddisgyblion a staff hunanynysu dros y Nadolig.
Ond mae’r undebau o’r farn nad yw’r Gweinidog yn mynd ddigon pell gan y bydd ysgolion cynradd yn parhau ar agor, yn ôl y Cyhoeddiad.
Eisioes mae Cyngor Ceredigion a Chyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd ysgolion cynradd yn cau’n gynnar.
Mae’r Cambrian News yn adrodd y bydd ysgolion yn darparu dysgu o bell o ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr hyd at ddiwedd y tymor ddydd Gwener 18 Rhagfyr.
Dywedodd pennaeth Berian Lewis, Pennaeth Ysgol Plascrug, Aberystwyth, mewn llythyr at rieni:
“Mae ysgolion yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cynnal lefelau staffio wrth i niferoedd cynyddol o staff a’u teuluoedd gael eu nodi fel cysylltiadau neu brofi symptomau…
Mae gan ysgolion opsiynau staffio cyfyngedig oherwydd yr angen i wahanu grwpiau cyswllt er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.
Rydym yn pryderu y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu yn yr wythnos i ddod.”
“Mae angen i holl staff ysgolion gael seibiant priodol”
Ac mae Rosie Lewis, swyddog arweiniol UNSAIN Cymru ar gyfer ysgolion, wedi dweud y bydd cyhoeddiad y Gweinidog Addysg yn “hynod siomedig i staff mewn ysgolion cynradd”.
“Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am newid yn seiliedig ar y dystiolaeth bryderus fod y cyfradd R yng Nghymru ar gynnydd a bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y disgyblion a’r staff sydd yn gorfod hunan-ynysu,” meddai.
“Mae angen i holl staff ysgolion gael seibiant priodol yn ystod cyfnod y Nadolig heb y pryder ychwanegol y gallai fod yn rhaid iddynt hunan-ynysu, neu waeth fyth yn profi’n bositif.
“Bydd y penderfyniad yn un hynod siomedig i staff mewn ysgolion cynradd sy’n teimlo’n arbennig o bryderus nad yw’r penderfyniad hwn yn ymestyn i leoliadau cynradd – sef yr hyn yr oedd UNSAIN wedi gofyn amdano.”
“Dylai’r penderfyniad hwn fod wedi’i wneud yn y sector Cynradd hefyd”
Yn ystod cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Rhagfyr 7) dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, nad oedd “sail resymegol” i gau ysgolion cynradd ac y gallai “niwed gwirioneddol” gael ei achosi drwy dynnu plant allan o’r ysgol.
Er bod undeb athrawon Nasuwt yn dweud fod y cyhoeddiad yn cynnig “eglurder” maen nhw hefyd o’r farn dylai’r penderfyniad gael ei ymestyn i gynnwys ysgolion cynradd.
“Credwn y dylai’r penderfyniad hwn fod wedi’i wneud yn y sector Cynradd hefyd,” meddai’r undeb mewn datganiad.
“Mae penderfyniad y Gweinidog wedi dod ag eglurder i’r hyn oedd yn dod yn sefyllfa anhrefnus gydag Awdurdodau Lleol ac Ysgolion yn mynd eu ffordd eu hunain.
“Roedd hwn yn benderfyniad anodd i’r Gweinidog ac, er ein bod yn dymuno iddo gael ei wneud yn gynharach, rydym yn ddiolchgar ei fod wedi’i wneud.”
Galw am rota y tymor nesaf
Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU Cymru) wedi dweud eu bod yn credu y dylid cyflwyno rota mewn ysgolion uwchradd y tymor nesaf.
“Mae ein haelodau’n awyddus i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno system rota ar gyfer ysgolion uwchradd o fis Ionawr, gydag un wythnos yn adre ac un yn yr ystafell ddosbarth, fel mesur i helpu i gadw pawb yn ddiogel,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymru Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:
Ychwanegodd ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yn cau ddydd Llun, ond ei fod yn siomedig y byddai ysgolion cynradd yn prahau ar agor.
Darllen mwy: