Mae Cyngor Ceredigion wedi penderfynu cau ysgolion cynradd y sir yn gynnar.

Bydd ysgolion uwchradd Cymru yn cau heddiw, gyda dysgu ar-lein yn cychwyn ddydd Llun.

Ond mi fydd ysgolion cynradd Ceredigion yn cau ddydd Mawrth nesaf.

Ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 11), cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yn symud at ddosbarthiadau ar-lein o ddydd Llun (Rhagfyr 14) ymlaen.

Dywedodd y Gweinidog fod y penderfyniad yn rhan o “ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad y coronafeirws” ac yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn “dirywio”.

Mae undebau wedi rhoi croeso i’r cyhoeddiad hwnnw, ond gan ddweud y dylid cynnwys ysgolion cynradd hefyd.

Cau’r cynradd

Rhwng Rhagfyr 15 a 18, bydd pob disgybl yng Ngheredigion yn cael eu haddysgu o bell, gyda’r ysgolion yn parhau i ddarparu addysg yn ddigidol.

Dywedodd y cyngor bod y penderfyniad wedi cael ei wneud gyda chefnogaeth Undebau Prifathrawon ac Athrawon a’i fod er budd y disgyblion, eu teuluoedd a staff ysgolion.

Mae’r penderfyniad hwn yn lleihau’r potensial y bydd disgyblion yn gorfod hunan-ynysu dros y Nadolig, yn ôl y cyngor.

Yn ystod y dyddiau a’r wythnosau diwethaf, mae nifer cynyddol o ddisgyblion a staff yn gorfod hunan-ynysu oherwydd eu bod wedi profi’n bositif am y coronafeirws neu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad ag achos positif.

Mae hyn wedi arwain at anawsterau staffio difrifol mewn nifer o ysgolion yng Ngheredigion.